Tryciau dadlwytho o'r tu cefn NPORS (N205)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 diwrnod dros 1 wythnos

Gwnewch gais
×

Tryciau dadlwytho o'r tu cefn NPORS (N205)

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

● Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau gweithredwyr

● Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y peiriant dan sylw

● Y gallu i leoli ac adnabod prif gydrannau'r peiriant ac esbonio eu pwrpas

● Y gallu i leoli ac adnabod y rheolyddion allweddol ac esbonio eu pwrpas

● Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol, yn unol â gofynion y gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol

● Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer tryc dadlwytho o'r tu cefn

● Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith

● Paratoi'r tryc dadlwytho o'r tu cefn ar gyfer ei ddefnyddio a defnyddio'r peirianwaith yn ddiogel ac yn effeithlon

● Ystyriaethau amgylcheddol

● Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo â pheiriant

● Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft a diffodd y peiriant

Gofynion mynediad

 Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.

 Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

Cyflwyniad

 Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth

 Arddangosiadau ymarferol

 Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

Asesiad

 Asesiad ymarferol

 Arholiad theori.

Dilyniant

Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2