NICEIC Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb Dyllau Aer

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Un diwrnod o hyfforddiant ac asesiad undydd

Gwnewch gais
×

NICEIC Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb Dyllau Aer

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer peirianwyr cymwysedig / profiadol sy’n bwriadu gweithio ar systemau dŵr poeth domestig heb eu hawyrellu.

AMLINELLIAD O'R CWRS:

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y pynciau canlynol yng nghyswllt systemau storio dŵr poeth domestig heb eu hawyrellu:

• Y ddeddfwriaeth berthnasol

• Rheolaethau

• Systemau dŵr poeth wedi'u hawyrellu

• Mathau o systemau

• Systemau dŵr poeth heb eu hawyrellu

• Dyluniad systemau

• Gofynion diogelwch

• Gofynion gosod a chomisiynu

Asesir trwy arholiad cwestiynau amlddewis, llyfr gwaith asesu ymarferol ac ymarferion ymarferol yn dilyn elfennau hyfforddiant y cwrs.

DEILLIANNAU DYSGU

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif cymhwysedd yn unol â G3 y Rheoliadau Adeiladu a Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (Cymru a Lloegr).

Gofynion mynediad

Bydd gofyn i chi feddu ar yr isod:

• Tystysgrif Systemau Dŵr Poeth heb eu hawyrellu

• Cymhwyster NVQ Lefel 2 neu 3 neu gymhwyster BTEC cyfatebol

• Aelod o gynllun cofrestru y diwydiant priodol fel Cofrestriad 'Gas Safe' neu OFTEC.

• O leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant yn gosod systemau gwresogi domestig a systemau dŵr poeth domestig gan ddefnyddio sgiliau heb eu hardystio ar hyn o bryd sy'n gyfwerth â NVQ Lefel 2 neu 3

Cyflwyniad

  • dysgu yn y dosbarth.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol
  • Prawf theori amlddewis

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A