Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.

By using our website, you consent to the use of cookies.

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Un diwrnod o hyfforddiant ac asesiad undydd

Disgrifiad o'r Cwrs

Dylech ddilyn y cwrs os ydych am ymuno ag un o'r cynlluniau contractio y mae WaterSafe yn eu cymeradwyo neu'n

beiriannydd plymio/gwresogi sy'n gosod, comisiynu, gwasanaethu ac atgyweirio systemau dŵr poeth, systemau dŵr poeth solar thermol neu bympiau gwres o'r aer/ddaear.

AMLINELLIAD O'R CWRS:

Cymhwyster seiliedig ar wybodaeth yw hwn sy'n cynnwys:

  • Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Categorïau hylif
  • Defnyddiau a sylweddau mewn cyswllt â dŵr
  • Gofynion ffitiadau dŵr
  • Gofynion dylunio a gosod systemau dŵr
  • Gofynion i atal cysylltiad â dŵr halog
  • Gofynion i atal llif yn ôl
  • Gofynion ar gyfer gwasanaethau dŵr oer a dŵr poeth
  • Gofynion gosod ar gyfer toiledau, dyfeisiau llifolchi a throethfâu
  • Ofynion lleoli a gosod ar gyfer mathau o faddonau, sinciau, cawodydd a thapiau
  • Cyfyngiadau defnydd ar gyfer peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri ac offer eraill
  • Gofynion ar dŵr sy'n cael ei gyflenwi i'w ddefnyddio tu allan
  • Gofynion ar gyfer hylendid wrth weithio
  • Y ddeddfwriaeth ynghylch gosod pibellau cyflenwi
  • Sut i fod yn Gontractwr a gymeradwyir gan WaterSafe

DEILLIANNAU DYSGU

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif cymhwysedd yn unol â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (Cymru a Lloegr) ac Is-ddeddfau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) (yr Alban) 2014.

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr wrth un neu ragor o'r canlynol:

  • Cymhwyster NVQ/SNVQ perthnasol
  • Aelod o gynllun cofrestru priodol ar gyfer y diwydiant fel 'Gas Safe' neu OFTEC.
  • O leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant yn gosod systemau gwresogi a systemau dŵr poeth domestig gan ddefnyddio sgiliau nad ydynt wedi'u hardystio hyd yma ond sy'n gyfwerth â NVQ/SNVQ Lefel 3
  • O leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant yn dylunio a chynnig gwasanaethau cynghori ym maes systemau gwresogi a systemau dŵr poeth domestig ar lefel 3 NVQ/SNVQ neu gyfwerth

Cyflwyniad

  • Dysgu yn y dosbarth

Asesiad

  • Arholiad theori llyfr agored

Dilyniant

Wedi i chi gwblhau'r asesiad, cewch gofrestru gyda Watersafe a hunanardystio eich gwaith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a