Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant⁠ Lefel 2 CBAC: Craidd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 i 9 mis

Gwnewch gais
×

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant⁠ Lefel 2 CBAC: Craidd

Prentisiethau

Disgrifiad o'r Cwrs

Rhan o brentisiaeth sy'n canolbwyntio ar wybodaeth graidd lefel 2 yn unig (nid yw hwn yn gymhwyster llawn - mae angen yr elfen ymarferol i fod yn gymhwyster llawn).

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rhai sy'n dymuno cael gwaith yn y sector gofal plant. Gan fod y cwrs yn seiliedig ar theori, mae'n rhoi cyfle i unigolion ddysgu gwybodaeth werthfawr cyn mynd i'r maes gofal plant.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer dysgu dan arweiniad unigol a gallai fod yn addas i'r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth mewn sector gwahanol ond sy'n dymuno newid gyrfa.

Gofynion mynediad

Cyfweliad llwyddiannus ac asesiad cychwynnol.

Cyflwyniad

Pum uned graidd i'w cwblhau, sy'n ymdrin ag elfennau megis diogelu a damcaniaethau datblygiad plant.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno o bell er y gall dysgwyr fynd i unrhyw un o'n safleoedd i gyfarfod ag asesydd os oes angen.

Asesiad

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn rhaid i ddysgwyr gyflawni pum uned graidd a chwblhau arholiad amlddewis hefyd (RHAID i’r dysgwr ddod i un o gampysau’r coleg i sefyll yr arholiad).

Dilyniant

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn rhaid i ddysgwyr gyflawni pum uned graidd a chwblhau arholiad amlddewis hefyd (RHAID i’r dysgwr ddod i un o gampysau’r coleg i sefyll yr arholiad).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dwyieithog:

Gall y dysgwyr wneud cynnydd trwy gael gwaith gwirfoddol neu gyflogedig mewn lleoliad gofal plant a chyflawni elfen ymarferol y cymhwyster (a thrwy hynny ennill y cymhwyster llawn). Gellir symud ymlaen i gymhwyster Gofal Plant Lefel 3 hefyd.

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth