Dyfarniad IMI Lefel 2 mewn Rhoi Prawf MOT i Gerbydau Dosbarth 4 a 7

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 diwrnod, 29 o oriau dysgu dan arweiniad. Rhaid i 8 o'r oriau hyn fod yn oriau ymarferol.

Gwnewch gais
×

Dyfarniad IMI Lefel 2 mewn Rhoi Prawf MOT i Gerbydau Dosbarth 4 a 7

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu'n bennaf ar gyfer unigolion sydd am wella eu gyrfa trwy gymhwyso i fod yn Brofwyr MOT. Mae'r cymhwyster yn eu galluogi i wneud cais i gael eu harsylwi mewn asesiad DVSA terfynol i sicrhau Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) i fod yn Brofwyr Dynodedig.

Gofynion mynediad

Trwydded yrru gyfredol a llawn y DU ar gyfer dosbarthiadau'r cerbydau sydd i gael eu profi.

Mecanig medrus sydd wedi gweithio am o leiaf bedair blynedd yn gwasanaethu a thrwsio'r mathau o gerbydau sydd i'w profi. (Mae prentisiaid sydd wedi gweithio am 4 blynedd yn gymwys.)

Dim euogfarnau nad ydynt wedi darfod am droseddau'n ymwneud â phrofion MOT neu'r fasnach cerbydau modur, neu drais neu fygwth. Cymeriad ac enw da.

I fod yn Brofwr Dynodedig (NT) ar gyfer cerbydau dosbarth 3, 4, 5 neu 7 rhaid cael cymhwyster priodol hefyd.

Cyflwyniad

Wyneb yn wyneb

Asesiad

Asesiad ymarferol ac arholiad ar-lein

Dilyniant

Os ydych eisoes yn brofwr MOT, rhaid i chi gwblhau'r hyfforddiant a phasio'r asesiad rhwng Ebrill a Mai bob blwyddyn.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2