Cyrsiau Rhan-amser
Ydych chi eisiau astudio er mwyn datblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu i wella eich rhagolygon gwaith?
Mae ein cyrsiau proffesiynol rhan-amser yn rhoi i chi'r cymwysterau rydych eu hangen i wella eich sgiliau. Gallant eich helpu i wella eich gyrfa neu i ddatblygu eich busnes.
Prosbectws Ar-lein – Cyrsiau Dysgu Gydol Oes a Rhan-amser
Gyda'n prosbectws ar-lein gallwch chwilio am amrywiaeth eang o gyrsiau dysgu gydol oes a rhan-amser ac archebu lle arnynt.
Cymwysterau i wella eich gyrfa
Gallech ddysgu sut i gadw cyfrifon gyda chymhwyster AAT, neu gael hyfforddiant i gynnig triniaethau harddwch newydd yn eich salon. Mae ein cyrsiau'n cwmpasu amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys adeiladu, cwnsela, gwaith trydan, gwallt a harddwch, lletygarwch a llawer mwy.
Potensial - Dysgu Gydol Oes
Bydd Potensial yn cynnal ac yn datblygu ymhellach y profiadau dysgu a'r canlyniadau rhagorol sy’n gysylltiedig â dysgu gydol oes yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan barhau i ddatblygu a chynnig cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu gydol oes ar draws gogledd orllewin Cymru.
Cyrsiau Gweinyddu Meddygol
Ydych chi'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes gweinyddu meddygol?Ydych chi'n gweithio yn y sector gofal iechyd ac eisiau datblygu eich sgiliau?