Cyrsiau
Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd - o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel A i gyrsiau gradd a chymwysterau proffesiynol. Beth bynnag yw'ch nod, mae gennym gwrs sy'n addas i chi.

Cyrsiau Llawn Amser
Rydym yn cynnig cyrsiau mewn dros 20 maes pwnc i bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol. Drwy ganolbwyntio ar ddarparu addysg o'r radd flaenaf byddwn yn eich helpu chi i feithrin y sgiliau mae cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt.

Lefel A
Cewch ddewis o blith 30 o gyrsiau Lefel A yn ein canolfannau 'Chweched' dosbarth pwrpasol ar gampysau Dolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl.

Graddau
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gymwysterau lefel prifysgol, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd.

Prentisiaethau
Wrth ddilyn prentisiaeth, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a meithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith.

Cymwysterau Proffesiynol
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau proffesiynol busnes mewn meysydd fel cyfrifeg a chyllid, iechyd a gofal, cwnsela, marchnata, personél a rheolaeth.

Cyrsiau Rhan-amser
Mae rhaglenni rhan amser yn cynnwys amrediad eang o weithgareddau dysgu a chyrsiau sydd wedi trawsnewid bywydau miloedd o oedolion.

Hyfforddiant i Gyflogwyr a Busnesau
Mae ein gwasanaeth pwrpasol i gyflogwyr, Busnes@LlandrilloMenai, yn darparu hyfforddiant i fusnesau ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys cyrsiau byrion, cymwysterau proffesiynol, prentisiaethau a chyrsiau gradd.