Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Dau ddiwrnod yn olynol

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol yn gwella dealltwriaeth am adeiladau a adeiladwyd cyn 1919. Mae'n cyd-fynd â PAS2035 a PAS2038, ac yn gweddu i Aseswyr, Dylunwyr a Chydlynwyr Ôl-osod sy'n gweithio ar adeiladau gyda llwybrau risg B a C.

Bydd dysgwyr yn gallu adnabod nodweddion adeiladau hŷn, gwerthuso opsiynau effeithlonrwydd ynni a gwneud argymhellion sut i roi mesurau gweithredu ar waith.

Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
23/10/202408:30 Dydd Mercher, Dydd Iau14.001 £4000 / 6D0021315

CIST-Llangefni

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
18/12/202408:30 Dydd Mercher, Dydd Iau14.001 £4000 / 6D0021316

Gofynion mynediad

Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad penodol, ond mae'n gwrs delfrydol i Aseswyr, Dylunwyr a Chydlynwyr Ôl-osod sy'n gweithio ar adeiladau traddodiadol gyda llwybrau risg B a C

Cyflwyniad

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno dros ddeuddydd olynol gyda gofyniad i gwblhau dau brawf byr yn cynnwys cwestiynau amlddewis, ac astudiaeth achos rhyngweithiol yn rhithwir ar y prynhawn olaf, a fydd yn llunio portffolio o dystiolaeth.

Diwrnod 1, 09:00 - 16:00:

  • Deall Safon Brydeinig 7913 (BS 7913) sy'n berthnasol i hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol
  • Dadansoddi agweddau adeiladwaith ac oedran
  • Rheoli strategaethau cynnal a chadw
  • Adnabod yr hyn sy'n dylanwadu ar berfformiad ynni a goblygiadau hynny ar fesurau effeithlonrwydd ynni
  • Penderfynu ar fesurau a deunyddiau addas
  • Cynyddu dealltwriaeth am ddulliau effeithlonrwydd ynni

Diwrnod 2, 09:00 - 16:00:

  • Rhoi cyngor ar fesurau effeithlonrwydd ynni mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol
  • Cymryd rhan mewn Astudiaeth Achos Rhithwir
  • Gorffen gyda dau arholiad cwestiynau amlddewis.

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd dysgwyr yn meddu ar y gallu i:

  • Adnabod oedran, natur a nodweddion unigryw mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol

Gwerthuso gwahanol ddewisiadau i roi mesurau effeithlonrwydd ynni ar waith mewn adeiladau o'r fath, gan gynnig argymhellion ac arweiniad ar sut i'w cyflwyno

Asesiad

Asesiad, cwestiynau amlddewis a phortffolio.

Dilyniant

Asesydd Ôl-osod

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Na

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'