Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ABBE Tystysgrif Lefel 3 Mewn Asesu Ynni Domestig

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod dros 10 wythnos (1 diwrnod pob pythefnos)

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae hwn yn gymhwyster proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa fel Asesydd Ynni Domestig (DEA). Unwaith y byddant wedi cymhwyso, mae Aseswyr Ynni Domestig yn cofrestru gyda Chynllun Achredu sy'n rhoi'r hawl iddynt gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) ar gyfer cartrefi sydd wedi'i hadeiladu eisoes (nid rhai wedi'u hadeiladu o'r newydd) yn unol â'r ddeddfwriaeth ar Berfformiad Ynni Adeiladau.

Cynhelir y cwrs tri diwrnod mewn ystafell ddosbarth a byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i asesu eiddo domestig a chynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) cywir ar gyfer eiddo preswyl. Yn y gwersi byddwch yn cael cyfle i weithio ar ddau achos prawf EPC efelychiadol gan edrych ar wahanol fathau o eiddo sy'n amrywio o ran oed. Bydd disgwyl i chi hefyd gwblhau tri phrawf EPC yn annibynnol ar gyfer portffolio a asesir. Bydd hyn yn dangos bod gennych y wybodaeth ymarferol i allu cynnal asesiadau ynni mewn eiddo domestig.

Noder: Rhaid i ymgeiswyr ddewis a chwblhau tri achos prawf EPC ymarferol. Rhaid i'ch achosion prawf fodloni gofynion matrics eiddo ABBE, a byddwch yn cael copi o hwn gyda'ch deunyddiau hyfforddi.

⁠Ar ôl i chi cwblhau eich portffolio'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif Lefel 3 ABBE a fydd yn eich gwneud yn gymwys i ymuno ag unrhyw Gynllun Achredu DEA cydnabyddedig.

Gwybodaeth Bwysig

Wrth wneud cais i fod yn Asesydd Ynni Domestig achrededig, bydd angen i chi ddarparu tystysgrif ddatgelu sylfaenol (DBS/CRB) a gyhoeddwyd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma .

Cyn i'r cwrs ddechrau, byddwn yn anfon gwybodaeth fanwl atoch yn amlinellu'r holl dasgau y bydd angen i chi eu cwblhau. ⁠Gellir cwblhau'r tasgau hyn cyn, yn ystod, neu ar ôl y cwrs. Os nad oes gennych chi un eisoes, crëwch gyfrif Google cyn i'r cwrs ddechrau fel eich bod yn gallu cael mynediad i'r deunydd cwrs a derbyn adborth ar eich gwaith portffolio.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad penodol i ddod yn Asesydd Ynni Domestig (DEA).
  • Gallai diddordeb mewn adeiladu a sgiliau mathemateg da fod yn fantais, ond nid ydynt yn hanfodol.
  • Bydd angen mynediad i dri eiddo er mwyn cwblhau'r tri achos prawf EPC ar ôl y cwrs.

Yr Offer sydd ei Angen

  • Tâp Mesur neu ddyfais mesur laser ar gyfer mesur dimensiynau ystafell
  • Ystôl risiau i gael mynediad i ofod yr atig
  • Cyfrifiadur personol neu liniadur (Noder: Nid yw ein meddalwedd RdSap (EPC) yn gydnaws â chyfrifiaduron Mac)
  • Camera neu ffôn clyfar/tabled i dynnu lluniau o du mewn a thu allan eiddo fel tystiolaeth

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn ymestyn dros 10 wythnos, gyda sesiynau'n cael eu cynnal unwaith bob pythefnos. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn pedwar prosiect EPC penodedig ac un o'u dewis, gan gwblhau'r portffolio cyfan erbyn diwedd y ddegfed wythnos.

Asesiad

Asesiad, cwestiynau amlddewis a phortffolio.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Na

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date