Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ABBE Lefel 3 Aseswyr Ôl-osod Tystysgrif lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod yr wythnos dros 3 wythnos ynghyd â hunan-astudio

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 ABBE ar gyfer Aseswyr Ôl-osod wedi'i datblygu i alluogi'r rhai sy'n gweithio yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig i wneud cymhwyster sy'n cwmpasu rôl Aseswr Ôl-osod PAS2035.

Bydd y cymhwyster yn bodloni gofynion rheoliadol a bydd yn defnyddio'r Cynlluniau Achredu i gynhyrchu'r adroddiad.

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i gwmpasu pob agwedd ar rôl Aseswr Ôl-osod PAS2035, gan roi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i'r dysgwr gynnal asesiad a chynhyrchu adroddiad cyflwr.

Mae’n cynnwys deall egwyddorion a safonau ôl-osod, deall y strwythurau adeiladu, gwerthuso adeiladau ac asesiadau deiliadaeth sydd i gyd yn hanfodol yn y rôl hon.

Gofynion mynediad

Efallai bod dysgwyr eisoes yn gweithio yn yr amgylchedd adeiledig neu'r sector adeiladu. Bydd yn eu galluogi i ddangos y sgiliau a'r wybodaeth y maent wedi'u hennill drwy eu cyflogaeth gan alluogi dysgwyr i gyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gall fod o ddiddordeb arbennig i Aseswyr Ynni Domestig presennol a all uwchsgilio i fod yn Aseswr Ôl-osod.

Cyflwyniad

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyfuniad o theori a dysgu ymarferol.

Asesiad

Arholiad amlddewis

Dilyniant

Cydlynydd Ôl-osod

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date