Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyd at 1 wythnos yn dibynnu ar ofynion ACS

Disgrifiad o'r Cwrs

Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.

Mannau Gwaith:

CoNGLP1 (Changeover domestic natural gas to LPG) – Cyfnewid nwy domestig naturiol i LPG (ar gael trwy gyllid PLA)

PD (Permanent Dwellings) – Anheddau Parhaol (ar gael trwy gyllid PLA)

RPH (RESIDENTIAL PARK HOME) – Cartrefi Preswyl mewn Parciau

LAV (LEISURE ACCOMMODATION VEHICLES) – Cerbydau llety hamdden

B (Boats) – Cychod

Cyfarpar LPG Penodol:

HTRLP2- Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, datgymalu a chomisiynu tanau nwy gyda ffliwiau caeedig - LPG (ar gael trwy gyllid PLA)

Elfennau craidd

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Sefyllfaoedd anniogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng
  • Nodweddion lleoli silindrau LPG, diogelwch a meintiau
  • Gweithredu a lleoli ar gyfer ynysu mewn argyfwng, rheoli llif a falfiau silindrau
  • Pwysau cyflenwadau
  • Pibellau nwy (yn cynnwys meintiau, gosod, diffygion a namau)
  • Profi tyndra a llwyrlanhau (PD, LAV a RPH)
  • Ffliwau ac awyru
  • Hylosgi
  • Dadansoddi perfformiad hylosgi (profion nwy ffliw)
  • Rheolyddion cyfarpar

Cyfarpar

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Gosod
  • Comisiynu a chanfod diffygion
  • Gweithdrefnau gwasanaethu
  • Sefyllfaoedd anniogel

Gofynion mynediad

Cymwysterau ACS blaenorol

Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe.

Dosberthir peirianwyr i dri chategori:

  • Categori 1 - Gweithiwr gosod nwy profiadol
  • Categori 2 - Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
  • Categori 3 - Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol

Gwybodaeth ychwanegol:

Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:

  • 2x ffotograff maint pasbort
  • Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.
  • Deunydd i wneud nodiadau (ni chaniateir dyfeisiau recordio)
  • Cyfrifiannell (heb fod yn un ar ffôn clyfar) y gallwn ei rhoi i chi ar y diwrnod.

Byddwn hefyd yn darparu copi o'r NICEIC LPG On-site Guide i chi ei ddefnyddio yn ystod yr hyfforddiant. Gallwch brynu eich copi eich hun drwy glicio yma.

Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad

Cyflwyniad

Hyd at 2 ddiwrnod o hyfforddiant, yn ddibynnol ar ofynion ACS

Asesiad

Asesiadau ymarferol a gwaith theori

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'