Amaethyddiaeth
Bydd ein cyrsiau Amaethyddol yn eich helpu i feithrin sgiliau a dysgu am amryw o bynciau perthnasol fel Cynhyrchu Da Byw, Tir Glas a Chnydau, a Rheoli Fferm.
Yn aml cyfeirir at y sector amaethyddol fel asgwrn cefn yr economi fyd-eang ac mae'n cynnig llwybr gyrfa unigryw a gwerth chweil i'r rhai sydd â diddordeb mewn cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gofalu am yr amgylchedd, ac arloesi. Gall dewis gyrfa ym maes amaethyddiaeth roi llawer o foddhad gan eich bod yn cyfrannu at ddiogeled bwyd y byd yn ogystal â llesiant cymunedau.
Un o'r prif resymau dros ystyried gyrfa mewn amaethyddiaeth yw ei gyfraniad allweddol at fwydo poblogaeth gynyddol y byd. Mae gweithwyr byd amaeth yn gweithio'n ddiflino i ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer cynhyrchu bwyd mewn ffyrdd effeithlon a chynaliadwy. O ffermwyr ac agronomegwyr i beirianwyr ac ymchwilwyr amaethyddol, mae unigolion yn y maes hwn yn hanfodol i sicrhau cyflenwad bwyd sefydlog a diogel ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae amaethyddiaeth yn sector amrywiol sy'n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa. Mae'n cynnwys meysydd amrywiol fel cynhyrchu cnydau, hwsmonaeth anifeiliaid, busnesau sy'n gysylltiedig ag amaeth, amaethyddiaeth gynaliadwy, a thechnoleg amaethyddol. Mae'r amrywiaeth hwn yn galluogi unigolion i ddewis arbenigedd sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a'u nodau, boed hynny'n weithio'n uniongyrchol ar fferm, gwneud gwaith ymchwil mewn labordy, neu reoli busnesau amaethyddol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r sector amaethyddiaeth wedi gweld datblygiadau technolegol rhyfeddol. Mae amaethyddiaeth fanwl, roboteg, ac atebion sy'n cael eu gyrru gan ddata wedi trawsnewid y diwydiant, gan ei wneud yn faes cyffrous ar gyfer arloesi a datrys problemau. Mae hyn yn agor llwybrau i'r rhai sydd â diddordeb mewn cyfuno eu diddordeb mewn amaethyddiaeth â thechnoleg flaengar ac arferion cynaliadwy.
Ar ben hynny, mae gyrfa mewn amaethyddiaeth yn gyfle i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Gall arferion ffermio cynaliadwy helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a diogelu adnoddau naturiol. Mae gweithwyr proffesiynol byd amaeth ar flaen y gad o ran mabwysiadu dulliau ecogyfeillgar, megis ffermio organig a rheoli plâu yn integredig, gan gyfrannu at blaned iachach.
P’un a ydych yn cael eich denu at waith ymarferol yn y maes neu’n ffafrio rôl sy’n rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich sgiliau gwyddonol, eich sgiliau busnes neu'ch sgiliau technolegol, mae’r sector amaethyddiaeth yn cynnig llwybrau gyrfa amrywiol a gwerth chweil. Mae'n faes lle gallwch gyfrannu'n uniongyrchol at ddiogeledd bwyd y byd, cadwraeth amgylcheddol, a datblygu gwledig, gan ei wneud yn ddewis rhagorol i'r rhai sydd am gael gwaith pwrpasol a chyfle i wneud gwahaniaeth.
Cyfleoedd o ran Gyrfa:
- Gweithiwr Fferm: Cyflog Cyfartalog - £18,000 i £25,000 y flwyddyn
- Technegydd Amaethyddol: Cyflog Cyfartalog - £22,000 i £30,000 y flwyddyn
- Rheolwr Fferm: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £45,000 y flwyddyn
- Agronomegydd: Cyflog Cyfartalog - £25,000 i £40,000 y flwyddyn
- Peiriannydd Amaethyddol: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £50,000 y flwyddyn
- Milfeddyg (mewn amaethyddiaeth): Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £50,000 y flwyddyn
- Ymgynghorydd Amaethyddol: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £50,000 y flwyddyn
- Garddwr: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £35,000 y flwyddyn
- Gwyddonydd Bwyd: Cyflog Cyfartalog - £25,000 i £45,000 y flwyddyn
- Gwyddonydd Amgylcheddol (mewn amaethyddiaeth): Cyflog Cyfartalog - £25,000 i £40,000 y flwyddyn
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 2 hyd at gyrsiau
Lefel 3. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Cyrsiau lefel 2
Cyrsiau lefel 3
Gyrfa mewn Amaethyddiaeth
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.