Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma AIM mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod Lefel 5

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Astudio annibynnol gyda 4 sesiwn hanner diwrnod dan arweiniad arbenigwr (rhaid cwblhau'r cwrs cyn pen 6 mis)

Gwnewch gais
×

Diploma AIM mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod Lefel 5

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Diploma Lefel 5 AIM mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn Gydlynydd Gwaith Ôl-osod; rôl hollbwysig newydd sy'n ofynnol dan safonau PAS 2035.

Mae'n ddelfrydol i weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig sydd am gael gyrfa'n diffinio a rheoli prosiectau ôl-osod.

I gael gyrfa'n gweithio fel Cydlynydd Ôl-osod mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru a'ch achredu gan TrustMark. I gyflawni'r achrediad hwn, rhaid cael Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod.

Strwythur y Cwrs

Mae'r cwrs yn cynnwys deuddeg modiwl ynghyd ag astudiaeth achos gynhwysfawr. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o waith ymarferol a theori

Gofynion mynediad

Gan ei fod yn gymhwyster a reoleiddir, mae i'r cwrs Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod ofynion mynediad penodol. Mae’r gofynion sylfaenol ar gyfer pob dull astudio'n cynnwys y meini prawf allweddol canlynol:

  • 12 credyd Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig
  • Cymwyseddau proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig fel y'u diffinnir gan PAS 2035

O leiaf dwy flynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau ôl-osod neu effeithlonrwydd ynni

Cyflwyniad

Pan fyddwch chi'n cofrestru ar gwrs, byddwch yn cael mynediad i'n system rheoli dysgu. Dyma'r llwyfan e-ddysgu y cyflwynir y cwrs arno a thrwy hwn rydych yn anfon eich aseiniadau atom.

Yn ogystal â'r modiwlau e-ddysgu, rydym yn cynnal gweithdai unigryw ar gydlynu ôl-osod. Mae'r rhain yn cynnig profiadau hanfodol wrth i chi ddysgu gan gymheiriaid dan arweiniad ein tiwtoriaid arbenigol sydd hefyd yn gydlynwyr ôl-osod wrth eu gwaith bob dydd.

Gallwch ddewis gwneud y gweithdai hyn yn rhithwir neu trwy ddod i'n canolfan hyfforddi.

Os ydych eisoes yn adeiladwr neu ddylunydd proffesiynol a chymwysedig, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Pro-Track – llwybr lle mae'r holl ddysgu'n digwydd yn annibynnol.

Asesiad

Bydd pob dysgwr yn cael asesydd a fydd yn rhoi arweiniad ac adborth iddo ar bob aseiniad.

Asesir y cwrs trwy:

  • Brofion amlddewis ar ddiwedd pob modiwl
  • Aseiniadau ysgrifenedig byr yn gysylltiedig â'r amcanion dysgu allweddol
  • Cyflwyniad llafar yn gysylltiedig â'r astudiaeth achos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'