AIM Lefel 3 Gynghorwyr Ôl-osod Domestig Dyfarniad
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
E-ddysgu dan eich pwysau eich hun (30 awr) neu 1 diwrnod yr wythnos am 5 wythnos
AIM Lefel 3 Gynghorwyr Ôl-osod Domestig DyfarniadProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae cymhwyster Lefel 3 AIM i Gynghorwyr Ôl-osod Domestig yn rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i roi cyngor ynghylch ôl-osod. Mae'r cwrs yn hawdd i'w ddilyn ac yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i ôl-osod tŷ cyfan.
Bydd dysgwyr yn dod i ddeall beth yw ôl-osod domestig, beth yw ei fwriad, a beth i chwilio amdano wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.
Byddwch yn cael gwybod popeth sydd ei angen arnoch i weithio yn y diwydiant, felly fe fyddwch chi bob amser un cam ar y blaen.
Strwythur y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys 4 modiwl sy'n ymdrin â phob agwedd ar gyngor ôl-osod.
Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o waith ymarferol a theori.
- Rôl Ôl-osod wrth Ddefnyddio Ynni yn y Cartref
- Egwyddorion Ôl-osod
- Y Diwydiant Ôl-osod a Rôl Cynghorwyr
- Deall Egwyddorion Cyngor Ôl-osod
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod dros 18 oed a bod â mynediad i gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy.
Cyflwyniad
- E-ddysgu annibynnol
- Dysgu'n rhithwir ar-lein neu yn ein canolfan hyfforddi
- Mynediad i'r system rheoli dysgu
Asesiad
Asesir y cwrs trwy:
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiad terfynol – Astudiaeth achos a thrafodaeth broffesiynol
Dilyniant
Asesydd Ôl-osod, Cydlynydd Ôl-osod, Dylunydd Ôl-osod
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig