Bpec Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
Bpec Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi DomestigCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn ymdrin â gofynion Rhan L y Rheoliadau Adeiladu a'r Gofynion Cymhwysedd Technegol ar gyfer Systemau Gwresogi a Dŵr Poeth Domestig i sicrhau Effeithlonrwydd Ynni. Mae'r cwrs yn cyd-fynd â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac wedi'i fapio gan SummitSkills.
Dylai gosod boeleri newydd ac uwchraddio systemau gael ei gyflawni gan 'unigolyn cymwys' sydd wedi'i gofrestru gyda gweithredwr cynllun rheoliadau adeiladu neu wedi'i gymeradwyo gan adran Rheoli Adeiladu'r awdurdod lleol.
Bydd dysgwyr yn dod i ddeall y meysydd canlynol:
- Sut mae defnydd ynni yn effeithio ar yr amgylchedd
- Sut mae'r defnydd ynni yn effeithio ar swyddogaeth y gosodwr gwresogi
- Deall y ddeddfwriaeth a fydd yn gorfodi newidiadau
- Dylunio
- Arolwg cyn cyflawni gwaith
- Gosod
- Gwasanaethu
- Comisiynu
- Rheolyddion
- Archwiliad gweledol
- Arferion gweithio diogel
- Canfod namau a'u cywiro
- Eglurhad sut i weithredu'r system yn ddiogel
Mae'r cymhwyster Rhan L wedi'i gynllunio ar gyfer gosodwyr systemau gwres canolog sydd angen hunan-ardystio eu gwaith trwy un o'r Cynlluniau Unigolyn Cymwys.
Gofynion mynediad
Mae'r Dystysgrif mewn Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig wedi'i hanelu at blymwyr, gosodwyr nwy ac unrhyw un sy'n rhan o'r sector plymio a gwresogi ac yn gosod boeleri cyddwyso.
Cyflwyniad
- Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
- Arholiad theori llyfr agored
Dilyniant
Wedi i chi gwblhau'r asesiad, cewch hunanardystio eich gwaith.
Mae'n rhagofyniad ar gyfer llawer o gyrsiau adnewyddadwy yn y diwydiant Gwasanaethau Adeiladu.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
- Cyfrif Dysgu Personol