BPEC - Poptai Nwy (CKR1)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyd at 1 wythnos yn dibynnu ar ofynion ACS
BPEC - Poptai Nwy (CKR1)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.
Meysydd Gwaith: Cwcers
Cyfarpar:
- Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
- Gosod
- Comisiynu a chanfod diffygion
- Gweithdrefnau gwasanaethu
- Sefyllfaoedd anniogel
Gofynion mynediad
Cymwysterau ACS blaenorol
Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe.
Mae peirianwyr yn cael eu dosbarthu i 3 chategori:
- Categori 1 – Gweithredwr gosod nwy profiadol
- Categori 2 - Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
- Categori 3 - Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:
- 1 llun maint pasbort
- Copïau gwreiddiol o gymwysterau ACS sydd wedi dod i ben neu sydd ar fin dod i ben
- Deunydd i wneud nodiadau (ni chaniateir dyfeisiau recordio)
- Cyfrifiannell (heb fod yn un ar ffôn clyfar) y gallwn ei rhoi i chi ar y diwrnod
Byddwn hefyd yn darparu copi o'r Canllaw ar y Safle LPG NICEIC i chi ei ddefnyddio yn ystod yr hyfforddiant.
Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad
Cyflwyniad
Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth a gweithdy
Asesiad
Asesiad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth
Dilyniant
- BPEC - Gwres Canolog/Gwresogyddion Dŵr Domestig (CENWAT)
- BPEC - Tanau/Gwresogyddion Nwy Domestig (HTR1)
- BPEC Mesuryddion Nwy Domestig (MET1)
- BPEC - Gwresogyddion Gwres Aer Domestig (DAH1)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig