Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS 7671:2018 (2382-22)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 10 wythnos Cyflwynir gyda'r nos 18:00 - 21:00
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS 7671:2018 (2382-22)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu'n bennaf at drydanwyr gweithredol sydd â phrofiad perthnasol a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill e.e. syrfewyr, ymgynghorwyr a chrefftwyr eraill sydd angen diweddaru a gwella eu dealltwriaeth o Reoliadau Gwifrau IET. Mae'n addas hefyd i unrhyw un sy'n dymuno dangos dealltwriaeth o Reoliadau Gwifrau 18fed Argraffiad IET (BS 7671).
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol i ddysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, rhaid i ganolfannau sicrhau bod gan ddysgwyr y potensial a'r cyfle i lwyddo yn y cymhwyster. Disgwylir y bydd gan y dysgwyr wybodaeth sylfaenol am wyddoniaeth drydanol.
Cyflwyniad
Cyflwyniadau gydag esboniadau manwl o'r Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS 7671:2018, sut i ddefnyddio'r llyfr i nodi'r rheoliadau gofynnol a'r strwythur rhifau at ddibenion diogelwch gosodiadau. Byddai hyn yn cynnwys asesiadau ffurfiannol o rannau i wirio dysgu a dealltwriaeth drwy gydol y cwrs. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu eu copi eu hunain o safonau BS7671.
Asesiad
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Un prawf amlddewis ar-lein. Mae hwn yn asesiad llyfr agored a bydd dysgwyr yn cael cymryd y deunydd cyfeirio a ganiateir a ganlyn - Rheoliadau Gwifrau IET 18fed Argraffiad: BS 7671:2018 (2022) Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol.
Gall llyfrau rheoliadau gwifrau IET a gymerir i mewn i arholiadau gynnwys y canlynol:
- Llyfrnodau (e.e. papur nodiadau 'post-it' gwag, nodiadau post-it wedi'u rhifo i nodi penodau neu gorneli tudalennau wedi'u plygu)
- Amlygu testun
- Nodiadau byr sy'n croesgyfeirio at rannau eraill o'r ddogfen.
Dilyniant
Mae'n caniatáu i ddysgwyr fynd ymlaen i weithio yn y maes penodol hwn, neu i gwblhau'r cymwysterau City & Guilds canlynol:
- Tystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Archwilio, Profi a Gwirio Sylfaenol (2392-10)
- Tystysgrif Lefel 3 City & Guilds mewn Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Contractwyr Gosodiadau Trydanol mewn Anheddau (2393-10)
- Dyfarniad City & Guilds Lefel 3 mewn Dilysu Dechreuol (2391-50)
- Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Archwilio Cyfnodol (2391-51)
- Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Archwilio a Phrofi (2391-52)
- Diploma Proffesiynol Uwch Lefel 4 City & Guilds mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladau (4467-04)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig