Dy Gartref: DIY
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
×Dy Gartref: DIY
Dy Gartref: DIYPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dysga 'driciau'r grefft' a ‘Gwneud y Gwaith dy Hun’. Syniadau hawdd eu dilyn ar gyfer adnewyddu dy gartref. Dysga sut i fesur bleindiau a llenni, carpedi a phapur wal. Torra’r dyn canol allan ac archeba’n uniongyrchol gan y gwneuthurwr. Awgrymiadau ar y tŵls gorau ar gyfer y joban a'r ffordd orau o archebu fel bod cyn lleied o wastraff â phosibl.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Cyrsiau mathemateg pellach
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Lluosi