Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r Ddaear
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
4 diwrnod yn olynol
Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r DdaearCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs yw gwella sgiliau plymwyr trwy roi hyfforddiant iddynt a fydd yn eu cymhwyso i weithio yn y sector ynni adnewyddadwy.
Bydd yr ymgeiswyr yn magu'r hyder i ddewis, gosod a chynnal a chadw systemau domestig ar gyfer pwmpio gwres o'r ddaear.
Gofynion mynediad
NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymio neu Wresogi ac Awyru Domestig neu Ddiwydiannol a Masnachol
Tystysgrif gyfwerth gynharach sy'n dystiolaeth o gymhwysedd
NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol sy'n cael eu Tanio ag Olew neu
NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Offer Nwy
3 blynedd o brofiad perthnasol
(Rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn gymwys)
Yn ogystal, os nad yw'n gynwysedig yn yr uchod, tystysgrifau cyfredol mewn perthynas â:
Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr.
Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Gwresogi Domestig
Systemau Storio Dŵr Poeth Heb Awyrellau
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros 4 diwrnod gan hyfforddwyr cymwysedig sy'n defnyddio deunyddiau dysgu arbennig y BPEC. Ar y 4ydd diwrnod cynhelir asesiadau gan ddefnyddio rigiau pwrpasol.
Asesiad
Cwestiynau amlddewis, atebion ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol a gynlluniwyd i sicrhau bod pob ymgeisydd trwy'r wlad yn cael ei drin yn deg a chyfartal. Golyga hyn y gall cyflogwyr a chwsmeriaid fod â hyder mewn gweithwyr a aseswyd mewn Canolfan BPEC.
Dilyniant
Mae'r cwrs yn cyfrannu at achrediadau CPS a MCS ac yn faen prawf ar gyfer ymuno â chynlluniau amgylcheddol y llywodraeth.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
- Cyfrif Dysgu Personol