Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi DomestigCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Dystysgrif mewn Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig yn rhoi'r wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnoch i fodloni'r rheoliadau adeiladu ar gyfer cynnal a chadw a gosod systemau gwres canolog. Byddwch yn archwilio'r angen am effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn ennyn sgiliau i wella, i hyrwyddo ac i gynghori eich cwsmeriaid ar eu hopsiynau.
£200
Gofynion mynediad
Mae'r Dystysgrif mewn Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig wedi'i hanelu at blymwyr, gosodwyr nwy ac unrhyw un sy'n rhan o'r sector plymio a gwresogi ac yn gosod boeleri cyddwyso.
Cyflwyniad
- Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
Dyluniwyd yr hyfforddiant a'r asesiad i gydymffurfio â gofynion Dogfen Gymeradwy L1 y Rheoliadau Adeiladu. Theori yn unig a llyfr agored.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- CIST Llangefni
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
![Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'](/imager/images/580246/RhosonSea-235_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)