Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 diwrnod dros 6 wythnos.


Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd yw meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr i gynorthwyo sefydliadau i reoli eu cyfrifoldebau amgylcheddol.

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sydd eisoes yn gyfrifol am reoli materion amgylcheddol ac i unrhyw un sy'n dymuno dechrau gyrfa ym maes rheoli'r amgylchedd.

Mae'n addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a chyflogeion.

Bydd dilyn y cwrs Rheoli'r Amgylchedd yn helpu dysgwyr i wneud yr isod:

  • Cyfiawnhau rheoli'r amgylchedd yn y gweithle.
  • Adnabod pa weithgareddau yn y gweithle a allai fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth amgylcheddol neu orfodaeth amgylcheddol.

  • Asesu'r agweddau ac effeithiau amgylcheddol a gwerthuso unrhyw fesurau rheoli a gyflwynwyd eisoes.
  • Cefnogi'r maes cynllunio rhag argyfyngau amgylcheddol.
  • Deall pwysigrwydd lleihau niwed i'r amgylchedd.
  • Amlinellu'r materion sy'n gysylltiedig â gwastraff a rheoli gwastraff.
  • Egluro manteision ac anfanteision ffynonellau ynni gwahanol a sut i'w defnyddio'n fwy effeithlon.

Ar ôl cwblhau'r cwrs tystysgrif Rheoli'r Amyglchedd hwn, byddwch yn gallu:

  • Deall amrywiaeth o faterion amgylcheddol fel y medrwch wella'r perfformiad amgylcheddol a lleihau'r niwed.
  • Defnyddio system rheoli'r amgylchedd a chyfrannu at wella parhaus.
  • Adnabod agweddau amgylcheddol a'u heffeithiau cysylltiedig a gwerthuso effeithiolrwydd unrhyw fesurau rheoli a gyflwynwyd eisoes.
  • Cynorthwyo o ran gwneud penderfyniadau trwy gyflwyno dadleuon moesegol, cyfreithiol ac ariannol.
  • Deall y cysylltiadau rhwng gweithgareddau eich sefydliad a materion amgylcheddol ehangach.

Dyddiadau Cwrs

Dysgu o Bell

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
27/02/202509:00 Dydd Iau8.006 £9250 / 8D0021493

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, mae'r dystysgrif NEBOSH hon yn gymhwyster Lefel 3 sydd gyfwerth â Lefel A neu gymhwyster tebyg mewn colegau ym Mhrydain. Golyga hyn bod y cymhwyster yn un trwm i'w astudio a rhaid i'r dysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon.

Rhaid i safon Saesneg y dysgwyr fod yn addas i allu deall a mynegi'r cysyniadau a geir yn y maes llafur.

Cyflwyniad

Dysgu o bell

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled addas gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.

Asesiad

Mae dau gam i broses asesu'r cymhwyster hwn sy'n cynnwys:

Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd yn cynnwys dwy uned: Uned 1 (EMC1) ac Uned 2 (EMC2) ac mae dau gam i broses asesu'r cymhwyster hwn sy'n cynnwys:

Uned 1 - Rheoli'r Amgylchedd

  • Arholiad gyda llyfrau'n agored: sy'n asesiad digidol y byddwch yn ei wneud gartref neu mewn man diogel ac addas arall lle bydd modd i chi ganolbwyntio. Cewch senario sy'n disgrifio sefyllfa go iawn. Wedyn, bydd gofyn i chi ateb cwestiynau theori ac ymarferol ynghylch rheoli'r amgylchedd, wedi'u seilio ar y senario.
  • Bydd gennych 24 awr i gwblhau a chyflwyno eich papur, er y dylech allu cwblhau'r gwaith mewn 4 i 5 awr.
  • Asesiad ymarferol a fydd yn gofyn i ddysgwyr asesu'r agweddau ac effeithiau amgylcheddol mewn gweithle.

Uned 2 - Asesu'r agweddau amgylcheddol a'u heffeithiau cysylltiedig

Dilyniant

Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur

Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK