Diploma Cenedlaethol NEBOSH i Reolwyr Proffesiynol Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 uned, ND1, ND2 a ND3.
Cyflwynir ND1 uned yn ystod 1 diwrnod yr wythnos am 11 wythnos.
Cyflwynir ND2 uned yn ystod 1 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.
Cyflwynir ND3 uned yn ystod 1 diwrnod yr wythnos am 8 wythnos.
Mae'r cymhwyster cyfan yn galw am isafswm o 191 awr addysgu, ac argymhellir 144 awr o astudio personol a 140 o oriau asesu.
Diploma Cenedlaethol NEBOSH i Reolwyr Proffesiynol Iechyd a Diogelwch GalwedigaetholProffesiynol
Disgrifiad o'r Cwrs
Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yw'r cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n berthnasol i weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch, neu'r rhai sy'n dymuno gweithio yn y maes, a phobl â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach ynghylch iechyd a diogelwch.
Ei fwriad yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr sy'n dilyn gyrfa fel swyddog proffesiynol iechyd a diogelwch ac mae'n darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i astudio ôl-raddedig.
Mae astudio'r cymhwyster yn ymrwymiad sylweddol, ac mae angen rhoi cryn ymroddiad ac amser i bob uned.
Gofynion mynediad
Rhaid i ddysgwyr fod wedi cyflawni'r Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu gymhwyster SCQF Lefel 6 neu 7 cyfatebol.
Cyflwyniad
AR-LEIN Cyflwynir y cwrs gan diwtor drwy gyfrwng Microsoft Teams, gyda chyflwyniadau PowerPoint, a gweithgareddau a thrafodaeth unigol ac mewn grŵp ar-lein. Gosodir gwaith cartref bob wythnos a rhaid ei gwblhau. Disgwylir i'r dysgwyr gynnal gwaith ymchwil ychwanegol hefyd. YSTAFELL DDOSBARTH Cyflwynir y cwrs gan diwtor gan ddefnyddio cyflwyniadau PowerPoint, a gweithgareddau a thrafodaeth unigol ac mewn grŵp yn yr ystafell ddosbarth. Gosodir gwaith cartref bob wythnos a rhaid ei gwblhau. Disgwylir i'r dysgwyr gynnal gwaith ymchwil ychwanegol hefyd. |
Asesiad
Caiff pob uned ei hasesu fel a ganlyn: Uned ND1 - Asesiad ysgrifenedig yn cynnwys 4 rhan:
Argymhellir treulio 60 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 6 wythnos (30 diwrnod gwaith). Uned ND2 - Astudiaeth Achos wedi'i seilio ar senario. Argymhellir treulio 40 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 4 wythnos (20 diwrnod gwaith). Uned ND3 - Astudiaeth Achos wedi'i seilio ar senario. Argymhellir treulio 40 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 4 wythnos (20 diwrnod gwaith). |
Dilyniant
Cyrsiau eraill yn y Grŵp |
Other Grwp Courses
Gwybodaeth campws Dysgu o Bell
Remote/online tutor led via Microsoft Teams
Gwybodaeth campws CIST-Llangefni
Llangefni or on customer premises.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
Na