Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (3)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyfforddiant - 2 ddiwrnod
Asesu – hyd at 3 diwrnod
Elfennau’r Cwrs
- CCN1 – Diogelwch Nwy Craidd
- CENWAT – Boeleri Gwres Canolog a Gwresogyddion Dŵr
- CKR1 – Poptai
- HTR1 - Tanau Nwy a Gwresogyddion Wal
- MET1 – Mesuryddion Nwy Naturiol Domestig
- DAH1 – Gwresogyddion Gwres Aer LPG a Nwy Naturiol Domestig
Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (3)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Crëwyd y rhaglen hon ar gyfer peirianwyr a gweithwyr nwy proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio gyda gwahanol fathau o offer nwy yn y cartref. Trwy gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac asesiadau ymarferol mae'r cwrs yn cyflwyno'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar y mynychwyr i gynnal eu cymwysterau a gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant nwy.
Bydd y cwrs yn cynnwys astudio
- Deddfwriaeth a safonau diogelwch nwy
- Camau gweithredu a gweithdrefnau brys
- Cynhyrchion a nodweddion hylosgi
- Awyru
- Gosod pibellau a ffitiadau
- Profi tyndra a llwyrlanhau
- Gwirio a/neu osod rheolyddion mesur
- Sefyllfaoedd anniogel, hysbysiadau brys a labeli rhybuddio
- Gweithredu a lleoli rheolyddion a falfiau ynysu brys
- Gwirio a gosod pwysedd llosgyddion a chyfraddau nwy ar offer
- Gweithredu a gwirio dyfeisiau a rheolyddion diogelwch nwy ar offer
- Safonau Simneiau
- Archwilio a phrofi simneiau
- Gosod simneiau agored, simneiau cytbwys a simneiau ffan
- Ailsefydlu cyflenwad nwy presennol ac aildanio offer
- Archwilio, profi, comisiynu a chynnal a chadw offer nwy (ailasesiad yn unig).
- Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
- Sefyllfaoedd anniogel a chamau brys
- Pibellau nwy (yn benodol i gategori'r offer)
- Ffliwiau ac awyru (yn benodol i gategori'r offer)
- Hylosgi (yn benodol i gategori'r offer)
- Dadansoddi Perfformiad Hylosgi (profion ffliwiau nwy)
- Rheolyddion offer (yn benodol i gategori'r offer)
- Comisiynu, gwasanaethu, cynnal a chadw a chanfod diffygion sylfaenol yn ymwneud â diogelwch nwy
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr asesiad CCN1, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf mynediad a amlinellir yn Nodyn Cyfarwyddyd 8 i unigolion sy'n dod o dan gategorïau 1, 2, a 3, fel y nodir yn rheolau'r cynllun ACS.
Cyflwyniad
- Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
- Asesiad ymarferol a theori
Dilyniant
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig