Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

 Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'r ddeddfwriaeth berthnasol, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddogion rheoli cerbydau / peiriannau gwaith

 Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y cerbyd / peiriant dan sylw

 Dealltwriaeth dda o arwyddion a signalau, arwyddion llaw cydnabyddedig a gwahanol ddulliau cyfathrebu

 Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer swyddog rheoli cerbydau / peiriannau

 Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith, yn cynnwys blociau atal a mannau tipio

 Sefydlu ardaloedd gwaharddedig ar gyfer llwytho / dadlwytho

 Tywys peiriannau ymlaen ac yn ôl yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys mewn mannau cyfyng a mannau lle na ellir gweld yn glir

 Ystyriaethau amgylcheddol

 Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft, parcio a diffodd peiriannau

Gofynion mynediad

• Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

• Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.

• Saesneg o safon dda

Cyflwyniad

• Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth

• Arddangosiadau ymarferol

• Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

Asesiad

• Asesiad ymarferol

• Arholiad theori.

Dilyniant

Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date