Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

PRINCE2® (6ed argraffiad) Sylfaen ac Ymarferydd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 mis

Cofrestrwch
×

PRINCE2® (6ed argraffiad) Sylfaen ac Ymarferydd

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

A yw'r cwrs ar-lein PRINCE2 yn addas i mi?

Mae'r pecyn yn cynnwys y dystysgrif PRINCE2 ar lefel Sylfaen a'r dystysgrif PRINCE2 ar lefel Ymarferydd, ac felly byddai'n addas i ddechreuwyr ym maes rheoli prosiectau sydd am symud ymlaen i lefel Ymarferwyr.

Rydym yn argymell y cymhwyster PRINCE2 hwn os ydych am feithrin sgiliau rheoli prosiectau o'r radd flaenaf, gwella eich rhagolygon gyrfaol a datblygu gyrfa ym maes rheoli prosiectau.

Nid oes raid i ymarferwyr sy'n meddu ar y dystysgrif PRINCE2 (6ed argraffiad) gyfredol sefyll yr arholiadau a ddiweddarwyd yn 2017 ond argymhellir eu bod yn ymgyfarwyddo â deunydd y cwrs newydd.

Gofynion mynediad

I ddechrau dilyn cwrs hyfforddi PRINCE2 ar lefel cymhwyster Sylfaen, bydd peth dealltwriaeth gyffredinol o reoli prosiectau'n fanteisiol. Ond, nid oes rhagofynion ffurfiol.

I gofrestru ar gwrs hyfforddi PRINCE2 ar lefel cymhwyster Ymarferydd, bydd angen i chi fod wedi pasio un o'r cymwysterau canlynol:

  • Tystysgrif Sylfaen PRINCE2 (5ed neu 6ed Argraffiad)
  • PMP (Project Management Professional)
  • CAPM (Certified Associate in Project Management)
  • IPMA Lefel A, B, C, neu D

Cyflwyniad

Darperir ar-lein drwy gyfrwng e-ddysgu.

Asesiad

Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio

Dilyniant

Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?

Ar ôl cwblhau'r cwrs PRINCE2 ar lefel Sylfaenol a lefel Ymarferydd, gallwch ddechrau gweithio mewn amrywiol swyddi ym maes Rheoli Prosiectau, gan gynnwys:

Tystysgrif Sylfaen PRINCE2

  • Gweinyddwr Prosiectau - £22k
  • Dadansoddwr ym maes Rheoli Prosiectau - £28k
  • Rheolwr Prosiectau Iau - £29k
  • Cynorthwyydd ym maes Rheoli Prosiectau - £30k

Tystysgrif Ymarferydd PRINCE2

  • Dadansoddwr Iau ym maes Busnes - £28k
  • Rheolydd Prosiectau - £34k
  • Uwch Ddadansoddwr Prosiectau - £36k
  • Rheolwr Prosiectau - £42.5k

(Ffynhonnell: Payscale)

https://www.e-careers.com/courses/prince2-foundation-practitioner-online?q=EC113944

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth