PRINCE2® 7ed argraffiad (2023) Ymarferydd Cyflwyno Hybrid
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
PRINCE2® 7ed argraffiad (2023) Ymarferydd Cyflwyno HybridDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y cwrs PRINCE2 ar lefel Ymarferwr (a'i arholiad). Mae'r Ymarferwr yn adeiladu ar y cwrs Sylfaen a'i fwriad yw asesu a all ymgeisydd gymhwyso a theilwra dull rheoli prosiect PRINCE2.
Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
- Egwyddorion, sy'n llywio penderfyniadau a gweithredoedd.
- Prosesau, y dull cam wrth gam ar gyfer rheoli prosiect.
- Arferion, yr agweddau ar brosiect y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt yn ystod cylch oes prosiect.
- Rheoli Pobl, mae'r 7fed argraffiad yn cynnwys yr agwedd hanfodol bwysig hon wrth reoli prosiectau.
- Rheoli a chyfathrebu digidol, gan ddefnyddio offer cyfredol i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid.
Mae'r cwrs Ymarferydd yn rhyngweithiol iawn, yn cynnwys 2.5 diwrnod o gyflwyno gyda'r arholiad wedi'i gynnwys ar y diwrnod olaf. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at Reolwyr Prosiect a darpar Reolwyr Prosiect. Mae’r cwrs hefyd yn berthnasol i staff eraill sy’n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau'r Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, staff Sicrwydd Prosiect, staff Cymorth a Chefnogaeth Prosiect a rheolwyr llinell/staff gweithredol.
Mae'r cwrs yn un dwys ac mae angen darllen deunydd y cwrs ymlaen llaw, fydd yn cymryd oddeutu 6 awr. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gyfer pob un o'r nosweithiau a'r penwythnos, sef cyfanswm o tua 1.5 awr y nos/dydd.
Mae gofyn i chi gadw eich cymwysterau PRINCE2 yn gyfredol trwy ail-ddilysu ar ôl 3 blynedd, neu drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel aelod AEXLOS.
Gofynion mynediad
I ymgymryd â cwrs, a sefyll arholiad Ymarferydd mae'n rhaid eich bod wedi llwyddo yn un o'r canlynol:
- Tystysgrif Sylfaen PRINCE2
- PMP (Project Management Professional)
- CAPM (Certified Associate in Project Management)
- Cymhwyser IMPA Lefel A, B, C neu D
Cyflwyniad
Cyflwyno hybrid. 09.15-16.30 (yn fras) - ar y trydydd diwrnod yr amser gorffen fydd 1700 oherwydd yr arholiadau. Argymhellwn eich bod yn dod i'r sesiynau wyneb yn wyneb os yw'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu fod hynny yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs hwn.
Asesiad
Yr arholiad YMARFERYDD:
- Mae'n rhaid i chi lwyddo yn yr arholiad Sylfaen i ddilyn y cwrs Ymarferydd.
- Cwestiynau amlddewis, 70 cwestiwn, angen 42/68 i lwyddo - 60%, 2½ awr o hyd, llyfr agored.
Mae cost yr arholiad wedi'i gynnwys yn y ffi. Efallai y bydd yn rhaid ailsefyll ar ôl 90 diwrnod o sefyll yr arholiad.
Dilyniant
Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?
- Dadansoddwr Iau ym maes Busnes - £28k
- Rheolydd Prosiectau - £34k
- Uwch Ddadansoddwr Prosiectau - £36k
- Rheolwr Prosiectau - £42.5k
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: