Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Mae Riverbank Home Care Ltd yn wasanaeth gofal cartref newydd, sy'n darparu gofal a chefnogaeth i oedolion yn Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal tosturiol i ymuno â'n tîm i ddarparu gofal a chymorth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn angerddol dros helpu eraill a sicrhau lles preswylwyr.

Cyfrifoldebau:⁠
- Cynorthwyo unigolion gyda thasgau gofal personol megis ymolchi, gwisgo, maeth a hydradu, cymorth gyda meddyginiaeth, seibiant i deuluoedd a dyletswyddau domestig ysgafn
- Cefnogi unigolion â phroblemau symudedd a'u helpu i symud o gwmpas y cartref yn ddiogel
- Dilyn cynlluniau gofal a sicrhau bod yr holl anghenion unigol yn cael eu bodloni
- Darparu cwmnïaeth a chefnogaeth emosiynol

- Helpu i drefnu gweithgareddau hamdden ar gyfer unigolion

- Cadw cofnodion cywir o'r gofal a ddarperir

- Defnyddio systemau TG at ddibenion dogfennu

⁠Gofynion:
- Mae profiad mewn cartref gofal neu leoliadau gofal cartref yn ddymunol

- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â phreswylwyr, teuluoedd a chydweithwyr

- Hyfedr yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

- Mae angen trwydded yrru ddilys

- Rhaid bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Os ydych yn unigolyn gofalgar sydd â diddordeb gwirioneddol mewn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ymunwch â'n tîm fel Cynorthwyydd Gofal a helpwch wella ansawdd bywyd y rhai sy'n ein gofal.
Math o Swyddi: Llawn amser, Rhan-amser, Parhaol, Contract dros dro, Contract tymor penodol, contract dim oriau

Tâl: £11.50 yr awr

Oriau disgwyliedig: Amrywiol

Buddion:

  • Amser hyblyg
  • Telir costau teithio
  • Datblygiad gyrfa a dyrchafiad

DPP parhaus
⁠Amserlen: Sifft dydd
Ar gael ar y penwythnos


Sut i wneud cais

E-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl, eich profiad a'ch chymwysterau/cofrestriadau perthnasol -nataliegriffiths86@gmail.com


Manylion Swydd

Lleoliad

Rhyl

Sir

Sir Ddinbych

categori

Llawn Amser

Sector

Sector Gofal / Care Sector

Dyddiad cau

28.07.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi