Nyrs Ddeintyddol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn gwmni teuluol mewn tref hardd, gydag enw da ardderchog ers blynyddoedd ar gyfer lefelau uchel o ofal claf ganolog. Rydym yn cynnig deintyddiaeth gyffredinol yn ogystal a thriniaethau adferol gan gynnwys mewnblaniadau.
Oherwydd twf parhaus rydym am recriwtio aelod o staff brwdfrydig, gofalgar, dibynadwy a threfnus i ymuno â'n tîm yn y Llandudno smiles.
Os ydych yn unigolyn llawn cymhelliant, yn ddyfeisgar a threfnus gydag agwedd gadarnhaol sy'n ceisio gweithio mewn amgylchedd tawel, cydweithredol a chyfeillgar gall y swydd hon fod yn berffaith i chi.
Gofynion:
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog
- Sgiliau trefnu da a sylw i fanylion
- Gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn dda am amldasgio a bod yn hyblyg
- Cael eich cymell i gaffael a dysgu sgiliau newydd
- Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/ gwiriadau
- Sgiliau TG hyfedr gyda phrofiad o ddefnyddio pecyn meddalwedd deintyddol
Cysylltwch â'r practis am ragor o fanylion
Sut i wneud cais
E-bostiwch eich CV i llandudnosmiles.pm@gmail.com
Manylion Swydd
Lleoliad
Llandudno
Sir
Conwy
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Dyddiad cau
01.08.24
![](https://www.gllm.ac.uk/content/images/CAMVA.jpg)
![Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru](https://www.gllm.ac.uk/content/images/Logos/Funded_by_Welsh_Government_Logo.jpg)
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.