Staff Gegin
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae Tir a Môr yn fusnes teuluol sydd yn cynnig gwasanaeth bwyd i fynd ‘Pysgod a Sglodion’ yn ogystal â bwyty.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â'n tîm cegin. Bydd eich rôl yn cynnwys paratoi bwyd, ffrio pysgod ac adran pitsa.
Byddai'r rôl yn addas i unigolyn profiadol, fodd bynnag, rydym yn annog unigolion sydd yn awyddus i ddysgu i wneud cais gan fod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Cyfrifoldebau:
- Cogydd ar y ffrïer (Darperir hyfforddiant llawn)
- Cogydd Pitsa (Darperir hyfforddiant llawn)
- Paratoi cynhwysion ffres bob dydd
- Helpu i baratoi a choginio prydau o dan arweiniad staff y gegin
- Cynnal a chadw stoc.
- Cynnal glendid a threfn yn y gegin
- Cadw at reolau a chanllawiau diogelwch bwyd
- Gweithio gydag aelodau o'r tîm i sicrhau bod y gegin yn effeithlon
Sgiliau:
- Profiad o weithio yn y diwydiant lletygarwch fel rhan o dîm cegin.
- Y gallu a'r parodrwydd i ddysgu.
- Ethig gwaith cryf.
- Y gallu i weithio mewn tîm.
- Deall egwyddorion ac arferion diogelwch bwyd
- Gwybodaeth am ddulliau paratoi bwyd
- Prydlondeb.
- Gwaith ar benwythnosau hanfodol (dosbarthu sifftiau penwythnos yn deg, gan sicrhau bod holl staff y gegin yn cael cyfle i fod i ffwrdd)
- Argaeledd ar Ŵyl y Banc hanfodol (ac eithrio gwyliau cymeradwy)
Cyflog: Hyd at £13.50 yr awr.
- Swydd llawn amser
- Gweithio 4 diwrnod yr wythnos (3 diwrnod i ffwrdd - gan gynnwys penwythnosau mewn eildro gydag aelodau eraill o'r tîm)
- Cynllun pensiwn
- Amser i ffwrdd â thâl
- Hyblygrwydd gyda sifftiau
- Bwyd bob shifft
Rydyn ni'n credu yn gryf bod hi'n bwysig iawn i staff gael cydbwysedd bywyd gwaith da. Rydyn ni''n gweithio fel tîm i sicrhau bod pawb yn joio gweithio, yn ogystal â bywyd teulu a cymdeithasol.
Sut i wneud cais
E-bostio eich CV gyda nodyn yn egluro pam rydych chi’n addas ar gyfer y rôl I – tir-a-mor@btconnect.com Croeso i chi gysylltu am sgwrs anffurfiol i glywed mwy am y swydd.
Manylion Swydd
Lleoliad
Llanrwst
Sir
Conwy
categori
Llawn Amser
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Gwefan
https://www.tiramor-llanrwst.co.uk/jobs-llanrwst
Dyddiad cau
20.07.24
![](https://www.gllm.ac.uk/content/images/CAMVA.jpg)
![Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru](https://www.gllm.ac.uk/content/images/Logos/Funded_by_Welsh_Government_Logo.jpg)
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.