Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfarwyddwr Addysg Uwch a Phennaeth Cynorthwyol

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am arweinydd deinamig a gweledigaethol i lunio dyfodol Addysg Uwch fel Cyfarwyddwr a Phennaeth Cynorthwyol. Mae'r rôl fawreddog hon yn cyfuno arweinyddiaeth strategol Addysg Uwch ar draws y grŵp gydag uwch reoli meysydd allweddol y cwricwlwm.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am arloesi, hanes profedig mewn arweinyddiaeth addysgol, ac arbenigedd mewn meysydd fel Creadigol, Digidol, neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ymunwch â ni i yrru llwyddiant dysgwyr, effaith economaidd, a thwf cynaliadwy wrth arwain tîm eithriadol yn un o sefydliadau addysgol mwyaf blaenllaw Cymru. Gwneud gwahaniaeth ym mywydau myfyrwyr, gwella partneriaethau gyda phrifysgolion a chyflogwyr, a chyfrannu at ein cenhadaeth o "Gwella Dyfodol Pobl." Darganfyddwch y cyfle i ysbrydoli, arloesi, ac arwain gyda ni - gwnewch gais heddiw...

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CL/042/24

Cyflog

£71,081 - £77,317 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau

  • 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb

Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau

31 Hyd 2024
12:00 YH (Ganol dydd)

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Ffurflen Gais pdf

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  • Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  • Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  • Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  • Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity