Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu, Paratoi am Addysg Bellach, Rhyl

O fewn y Meysydd Paratoi am Addysg Bellach (yn flaenorol Sgiliau Byw'n Annibynnol) bydd angen i'r person llwyddiannus fod yn frwdfrydig ac yn hyblyg i gefnogi dysgwyr o fewn ystod o sgiliau bywyd a gwaith, megis e.e. coginio, sgiliau byw bob dydd, garddio, llythrennedd, rhifedd, TG, sgiliau dinasyddiaeth, datblygiad personol a chymdeithasol ac yn gweithio yn Cyn Mynediad - Lefel 1.

Pwrpas Swydd:

Gweithio ochr yn ochr â darlithwyr a hyfforddwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Helpu myfyrwyr i gael yr elw mwyaf posib o’u dysgu.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CL/311/24

Cyflog

£9,972 y flwyddyn, sy'n cynnwys hawl gwyliau

Lleoliad Gwaith

  • Y Rhyl

Hawl gwyliau

Hawl Gwyliau wedi ei gynnwys yn y cyflog a nodir

Patrwm gweithio

20 awr yr wythnos am 35 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau

05 Medi 2024
12:00 YH (Ganol dydd)

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Ffurflen Gais pdf

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  • Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  • Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  • Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  • Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity