Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu, Tymor yn unig, Glynllifon

Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i wneud y gorau o'u potensial ac unrhyw gyfleoedd dysgu a gynigir iddynt. Cefnogi a chynorthwyo staff addysgu gyda gofal academaidd, cymdeithasol a bugeiliol dysgwyr.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o diwtoriaid coleg, yn arbenigwyr pwnc ac yn arbenigwyr Cefnogi dysgu a dysgwyr. Rhoddir pob anogaeth i ddangos menter ac i weithio fel rhan o dîm. Bydd disgwyl cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi staff perthnasol a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fod mor effeithiol â phosibl yn y rôl hon.

Bydd disgwyl i Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu gyflawni eu dyletswyddau yn unol â Chanllawiau Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu Grŵp Llandrillo Menai ac o fewn System Ansawdd y Coleg. Bydd dyletswyddau’n amrywio yn ôl angen y myfyriwr(myfyrwyr), ond gallent gynnwys unrhyw un neu bob un o’r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau a amlinellir isod.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

AS/315/24

Cyflog

£9,732.11 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith

  • Glynllifon

Hawl gwyliau

Mae hawl i wyliau wedi'i gynnwys yn y cyflog a delir yn seiliedig ar hawl pro rata i'r canlynol

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

20 awr yr wythnos, 34 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau

16 Medi 2024
12:00 YH (Ganol dydd)

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Ffurflen Gais pdf

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  • Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  • Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  • Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  • Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity