Darlithydd Trin Gwallt
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi’r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu ym maes Trin Gwallt Lefelau 1,2 a 3 yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau trin gwallt cyn mynd ymlaen i fyd gwaith. Mae'r diwydiant trin gwallt ym Mhrydain yn awyddus iawn i chwilio am arbenigwyr cymwys ac mae'r rhaglenni hyn yn gyfle i ddysgwyr ddatblygu i weithio yn y swyddi hyn
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i’n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â’r gefnogaeth a roddir i’r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau’r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/298/24
Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
Hawl Gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa'r awr a nodir
Patrwm gweithio
6 awr yr wythnos, yn ystod tymhorau'r Coleg
Patrwm gwaith i’w gytuno gyda’r Rheolwr Maes Rhaglen.
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 33.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
13 Awst 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.