Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol - Peirianneg (Thechnolegau Adnewyddadwy a'r Ganolfan Peirianneg)
O dan arweiniad a chyfarwyddyd cyffredinol y staff darlithio bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynnal sesiynau ymarferol mewn gweithdai i grwpiau o ddysgwyr, a bydd yn cynorthwyo darlithwyr trwy olrhain ac asesu cynnydd y dysgwyr, gan roi arweiniad a chefnogaeth yn ôl yr angen.
Ble byddwch chi'n gweithio: Y Ganolfan Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy newydd ar gampws y Rhyl
Mae'r ganolfan newydd yn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf i'r sector peirianneg ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn cefnogi anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer llwybrau dilyniant ym maes: mecaneg, cynnal a chadw, electroneg, trydan, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a thrawsnewid digidol.
Mae gan y ganolfan newydd gyfleusterau hyfforddi ac arbenigedd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'ch gwaith fydd cefnogi rhaglen brentisiaeth genedlaethol i dechnegwyr tyrbinau gwynt ar y tir a'r môr. Yr adran hefyd sy'n arwain y gystadleuaeth sgiliau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.
Mae'r cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf – o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a gweithdy CNC. Ceir hefyd labordai ar gyfer electroneg, egwyddorion mecanyddol, roboteg, PLCs, Diwydiant 4.0, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/287/24
Cyflog
£30,513 - £32,557 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
01 Awst 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.