Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Gwaith Brics
O dan arweiniad gan staff darlithio fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i ddysgwyr yn gwneud gweithgareddau ymarferol mewn gweithdy ymarferol, cegin neu amgylchedd salon a byddant yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i tracio ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a chefnogaeth os yn briodol.
Mae’n debygol y bydd Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy (pro rata ar sail rhan amser)
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/278/24
Cyflog
£19.18 - £20.46 (yn cynnwys tal gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
Hawl gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog a nodir
Patrwm gweithio
490 awr yn ystod tymhorau'r Coleg
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
16 Gorff 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.