Swyddog Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd (SHE) hyd at Gorffennaf 2026
Nod y Grŵp yw sicrhau a chynnal diwylliant SHE rhagweithiol sy'n parhau i wella er mwyn sicrhau bod ei berfformiad SHE yn cyrraedd y chwartel uchaf ac yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth SHE, gofynion asiantaethau allanol a pholisïau a gweithdrefnau'r Grŵp.
Cynnig cyngor mewn modd rhagweithiol ar sut i sicrhau bod y perfformiad SHE yn cyrraedd y chwarel uchaf. Cynghori'r Grŵp ar bob agwedd yn ymwneud â chydymffurfiad â SHE. Cefnogi diwylliant SHE cryf, sy'n gwella'n barhaus a sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth, gofynion asiantaethau allanol a pholisïau a gweithdrefnau'r Grŵp - gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CS/051/24
Cyflog
£37,232.57 - £39,437.40 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Lleoliad gwaith i'w drafod
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
06 Tach 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.