Uwch Swyddog Prosiectau Cyfalaf (Cyfnod penodol hyd at Rhagfyr 2027)
Mae cyfle cyffrous ar gael fel Uwch Swyddog Rheoli Prosiectau Cyfalaf yng Ngrŵp Llandrillo Menai (GLlM).
Yn un o grwpiau Coleg mwyaf y DU, sy’n ymestyn ar draws pedair sir yng ngogledd Cymru, mae gan Grŵp Llandrillo Menai raglen gyfalaf cryf, gwerth oddeutu £90M dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym yn chwilio am unigolyn uchel ei gymhelliant, profiadol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm prosiectau cyfalaf strategol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Cyfarwyddwr ac uwch aelodau eraill y Grŵp ac yn gyfrifol am reoli gweithrediad fframwaith rheoli prosiect y grŵp gan gynnwys cychwyn prosiect, rheoli newid, ffrydiau sy’n dod i mewn, trosglwyddo a chau prosiectau a bydd yn gweithio’n agos gyda chlerc gwaith pob prosiect.
Mae dealltwriaeth o reoliadau diogelwch safleoedd adeiladu yn hanfodol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da. Yn ddelfrydol bydd gennych ardystiad PRINCE2 fel ymarferydd.
Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o amrywiaeth o waith rhaglen gyfalaf. Os hoffech wybod mwy am y rôl cysylltwch â thomas1w@gllm.ac.uk am sgwrs anffurfiol cyn cyflwyno cais.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CS/292/24
Cyflog
£33,901.50 - £39,437.40 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
29 Gorff 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.