Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mentor Lles, Tymor yn unig, Dros Dro hyd at Mehefin 2025

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n treialu swydd Mentoriaid Lles newydd i gefnogi dysgwyr. Bydd y mentoriaid yn cefnogi dysgwyr trwy ddarparu gwasanaethau lles proffesiynol, yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch materion emosiynol, corfforol a rhywiol. Mae'r gefnogaeth hon yn cynnwys gweithio'n agos gydag aelodau tîm eraill y Gwasanaethau i Ddysgwyr, tiwtoriaid a thiwtoriaid personol, Anogwr Dysgu’r Meysydd Rhaglen ac asiantaethau allanol i gefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o droi eu cefnau ar addysg.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

AS/314/24

Cyflog

£23,411 - £23,925 y flwyddyn (pro rata), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Bangor

Hawl gwyliau

Fe fydd yr hawl i wyliau wedi'i gynnwys yn y cyflog a delir yn seiliedig ar hawl pro rata i'r canlynol

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

22.5 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Rhan Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau

16 Medi 2024
12:00 YH (Ganol dydd)

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Ffurflen Gais pdf

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  • Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  • Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  • Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  • Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity