Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Fel myfyriwr sy’n dilyn rhaglen Astudiaethau Anifeiliaid, byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth mewn amryw o feysydd cysylltiedig fel Iechyd a Lles Anifeiliaid, Hyfforddi Anifeiliaid, Magu Anifeiliaid, Maetheg, Paratoi Anifeiliaid a Rheoli Busnes.

Mae’r sector anifeiliaid a milfeddygaeth yn llwybr gyrfa gwerth chweil a hanfodol i’r rhai sy'n mwynhau gwyddoniaeth, sydd â diddordeb mewn anifeiliaid ac sydd am ymrwymo i sicrhau iechyd a lles ein cymdeithion blewog a phluog. Mae dewis gyrfa yn y maes hwn yn golygu cychwyn ar daith llawn gofal, tosturi, a darganfyddiadau gwyddonol.

Un o elfennau mwyaf apelgar y sector anifeiliaid a milfeddygaeth yw’r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar fywydau anifeiliaid a’u perchnogion. Mae milfeddygon a gweithwyr gofal anifeiliaid proffesiynol yn ganolog i'r gwaith o wneud diagnosis, a thrin ac atal salwch mewn anifeiliaid. Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes, ffermwyr, a busnesau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid ar sut i gadw eu hanifeiliaid yn iach ac yn hapus.

Mae'r sector yn cynnig ystod eang o ddewisiadau gyrfa, gan gynnwys technegwyr milfeddygol, sŵolegwyr, ac arbenigwyr mewn ymddygiad anifeiliaid ac adsefydlu anifeiliaid yn y gwyllt. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt, neu anifeiliaid labordy, mae yna lwybr arbenigol ar gael i chi.

Y dyddiau hyn, mae lles anifeiliaid yn cael sylw mawr, gan arwain at alw cynyddol am weithwyr proffesiynol yn y maes. Nid yw'r sector anifeiliaid a milfeddygaeth wedi'i gyfyngu i waith clinigol gan ei fod hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil, cadwraeth ac addysg. Mae llawer o weithwyr proffesiynol y sector yn gweithio ym maes cadwraeth bywyd gwyllt, ymddygiad anifeiliaid, ac ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o anifeiliaid a'u hanghenion.

Ar ben hynny, mae gyrfaoedd yn y sector anifeiliaid a milfeddygaeth yn aml yn dod ag unigolion yn agosach at natur a'r amgylchedd. Mae'n rhoi cyfle iddynt ryngweithio ag ystod amrywiol o rywogaethau, dysgu am ecosystemau, a gweithio tuag at warchod bioamrywiaeth.

Nid gwaith yn unig yw gyrfa yn y sector anifeiliaid a milfeddygaeth; mae'n alwedigaeth sy'n seiliedig ar gydymdeimlad a chysylltiad dwfn â byd yr anifeiliaid. Mae'n gyfle i weithio gydag anifeiliaid, i hybu iechyd anifeiliaid, ac i achub eu cam. Os ydych chi'n mwynhau gofalu am anifeiliaid ac awydd cynyddu eich gwybodaeth wyddonol, mae'r sector hwn yn darparu llwybr gyrfa gwerth chweil lle cewch gyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau anifeiliaid a'u perchnogion.

Cyfleoedd o ran Gyrfa:

  • Milfeddygon
  • Nyrs Filfeddygol
  • Ymddygiadwr Anifeiliaid
  • Gofalwr Sw
  • Swyddog Lles Anifeiliaid
  • Biolegydd Bywyd Gwyllt
  • Milfeddyg Ceffylau
  • Biolegydd Morol
  • Gweithiwr sy'n Paratoi a Thrin Anifeiliaid

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau Lefel 3. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyrwyr gyda neidr
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date