Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes - Ystafell Ddosbarth Rhithwir
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 diwrnod llawn y gellir eu torri i lawr fel a ganlyn:
- Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Arferion Dadansoddi Busnes – 3 diwrnod
- Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Peirianneg Gofynion – 3 diwrnod
- Tystysgrif Sylfaen BCS mewn Ymddygiad Sefydliadol – 3 diwrnod
- Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Modelu Prosesau Busnes – 2 ddiwrnod
- Gweithdy i Baratoi at Arholiad Llafar – 1 diwrnod
Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes - Ystafell Ddosbarth RhithwirCyrsiau Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
A yw'r cwrs Diploma Rhyngwladol mewn Dadansoddi Busnes yn addas i mi?
Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol ym maes busnes a TG sydd eisiau dangos bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl o'r arferion dadansoddi busnes gorau.
Os ydych yn Ddadansoddwr Busnes ar hyn o bryd, neu'n awyddus i symud i'r sector a gallu ymgeisio am swyddi ym maes Dadansoddi Busnes, bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi ddealltwriaeth drylwyr yn ogystal â thystysgrif a gydnabyddir yn rhyngwladol i hybu eich gyrfa.
Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol ac yn dysgu'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen ar Ddadansoddwr Busnes. Ar ben hynny byddwch yn ennill tystysgrif a fydd yn gwella eich CV.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad i gofrestru ar y cwrs hyfforddi hwn, dim ond parodrwydd i gymryd rhan a meddwl agored.
Cyflwyniad
Darparir ar-lein drwy gyfrwng Ystafell Ddosbarth Rithwir
Asesiad
Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio
Dilyniant
Pa swyddi allaf i eu cael ar ôl cwblhau fy nghwrs Diploma Rhyngwladol mewn Dadansoddi Busnes?
Y swydd fwyaf cyffredin i rywun sydd wedi cwblhau'r cwrs Diploma mewn Dadansoddi Busnes yw Dadansoddwr Busnes, sydd â chyflog cyfartalog o £40,000 y flwyddyn yn y DU.
Gall ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn symud i amrywiol swyddi a sectorau fel Ymgynghori, Rheoli Prosiectau neu Gynllunio Strategol, ac yn aml rydym yn gweld eu bod yn symud i un o'r sectorau canlynol:
- Dadansoddwr Busnes - £40,000 y flwyddyn
- Saernïwr Prosesau Busnes - £66k
- Saernïwr Busnes - £78k
(Ffynhonnell: Payscale)
https://www.e-careers.com/courses/bcs-international-diploma-in-business-analysis?q=EC114411
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: