Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

City and Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12-18 mis

Cofrestrwch
×

City and Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych yn gweithio ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid ac am ddarparu'r gwasanaeth gorau bosibl, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd a chymhleth, ac os ydych wastad yn chwilio am ffyrdd i wella'ch perfformiad er mwyn i'r sefydliad barhau'n gystadleuol, dyma'r cwrs i chi.

Gofynion mynediad

  • Cyflogaeth yn y maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cyflwyniad

Caiff cynllun dysgu unigol ei lunio mewn ymgynghoriad â chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn ymweld â chi'n rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.

Asesiad

Byddwch yn cyflwyno i'ch asesydd dystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy. Gall y dystiolaeth gynnwys :

  • Astudiaethau Achos
  • Cwestiynau ac Atebion
  • Trafodaethau
  • Negeseuon e-bost neu lythyrau i ategu'ch tystiolaeth ysgrifenedig
  • Tystiolaeth Tystion gan eich cydweithwyr neu'ch rheolwr atebol

Bydd eich llyfrau gwaith, ynghyd â'r gwaith ymarferol a wnewch tuag at eich NVQ, yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.

Dilyniant

Mae cyfleoedd gwych i fynd ymlaen i astudio am gymhwyster uwch megis Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Manwerthu

Dwyieithog:

Cymraeg Neu Saesneg

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell