Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Mae gan y Coleg berthynas ardderchog â Sgiliau Adeiladu, Cyngor Sgiliau’r Sector, cyflogwyr lleol, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Mae'r diwydiant adeiladu yng ngogledd Cymru yn cyfrannu'n sylweddol at economi'r rhanbarth, gan gyflogi nifer fawr iawn o bobl mewn ystod eang o swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda.
Ochr yn ochr â rolau mewn cwmnïau adeiladu lleol, mae cyfleoedd hefyd ar gyfer cyflogaeth ledled y sector cyhoeddus gyda chyflogwyr mawr fel y GIG a chynghorau lleol, neu i ddechrau eich busnes eich hun.
Rydym yn cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau adeiladu yng ngogledd Cymru. Llwybrau yn cynnwys gwaith brics, gwaith saer ac asiedydd, trydanol, peintio ac addurno, plastro a phlymio. Gallwch hefyd ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a'ch gwybodaeth ymhellach gan symud ymlaen i astudio ar lefel gradd.
Mae ein rhaglenni hyfforddi arbenigol ym maes adeiladu a chyrsiau adeiladu yn cael eu cynnal mewn canolfannau pwrpasol gyda'r cyfleusterau diweddaraf, a chânt oll eu haddysgu gan diwtoriaid sydd â phrofiad bywyd go iawn yn y diwydiant.
Gallai swyddi yn y sector Adeiladu gynnwys:
- Rheolwr Adeiladu
- Peiriannydd Sifil
- Syrfëwr Meintiau
- Trydanwr
- Saer Coed
- Plymwr
- Peiriannydd Adeiladu
- Syrfëwr (Tir/Adeilad
- Rheolwyr Prosiectau Adeiladu
P’un a ydych chi’n dymuno bod yn rheolwr adeiladu, yn beiriannydd, neu'n grefftwr medrus, mae gyrfa yn y sector adeiladu'n cynnig dyfodol dylanwadol a gwerth chweil i chi lle mae eich gwaith yn siapio'r byd rydyn ni'n byw ynddo.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 1 hyd at gyrsiau
lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Cyrsiau lefel 1
Cyrsiau lefel 2
- Cymhwyster Sylfaen Adeiladwaith (Plastro a Teilio)
- Cymhwyster Sylfaen Adeiladwaith (Plymio a Teilio)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Addurno a Phlastro ac Teilsio)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gosod Brics a Gwaith Adeiladu Cyffredinol)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gosod Brics a Plastro)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gwaith Saer ac Asied ac Plymwaith)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gwaith Saer ac Asiedydd a Phlastro)
- Cymhwyster Sylfaen ym maes Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwaith Trydan)
- Sylfaen mewn Adeiladu (Gwaith Coed a Teilsio)
- Sylfaen mewn Adeiladu (Gwaith Coed a Toi)
Cyrsiau lefel 3
Cyrsiau lefelau 4 - 6
- Prentisiaeth - Cynnal a Chadw Cyffredinol Lefel 2
- Prentisiaeth - Gosod Trydan Lefel 3
- Prentisiaeth - Gwaith Asiedydd Lefel 3
- Prentisiaeth - Gwaith Brics Lefel 3
- Prentisiaeth - Gwaith Contractio ym maes Adeilad Lefel 3
- Prentisiaeth - Gweithrediadau Adeiladwaith Cyffredinol Lefel 3
- Prentisiaeth - Paentio ac Addurno Lefel 3
- Prentisiaeth - Plastro Lefel 3
- Prentisiaeth - Plymwaith a Gwresogi
- Prentisiaeth Uwch - Rheoli Safle Adeiladwaith Lefel 4
Gyrfa mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.