Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth?
Ar y cwrs hwn, cewch wybodaeth werthfawr am y sector cerdd a thechnoleg cerdd. Byddwch yn dysgu am bynciau fel: sut i gynllunio a chreu cynnyrch cerddorol, sut i weithio fel cerddor, ar eich pen eich hun ac yn rhan o grŵp.
Byddwch yn dysgu sut i recordio a chynhyrchu cerddoriaeth, a byddwch yn edrych ar y meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a ddefnyddir yn y diwydiant cerddoriaeth.
Bydd hefyd yn eich helpu i chi feithrin amrediad o sgiliau a thechnegau ymarferol, a fydd yn eich paratoi i weithio ac astudio ar lefel uwch. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar nifer o bynciau sy'n seiliedig ar gerddoriaeth a chyfrifiaduron yn ogystal ag astudio cerddoriaeth boblogaidd a recordio.
Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn derbyn Diploma Lefel 2 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 2 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn ddelfrydol i gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir ichi fynychu cyfweliad i roi'r cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a chlyweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol a gweithdai
- Gweithgareddau yn y dosbarth
- Gwaith grŵp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
- Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
- Sesiynau gyda Thiwtor Personol
- Ystafell Ddosbarth Google
Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws. Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
- Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 3 perthnasol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Trwy wneud hyn byddwch yn datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau creadigol ar lefel uwch. Gallwch hefyd ddewis gwneud cais i ddilyn cwrs mewn maes gwahanol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau uwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Technoleg Gwybodaeth Lefel 3
Bydd gennych hefyd gyfleodd gwaith posib yn y diwydiant cerddoriaeth, y diwydiannau creadigol a'r sector dechnoleg un ai yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Gall y rhain gynnwys gyrfa fel cerddor, cynhyrchydd, peiriannydd darlledu, rheolwr adloniant, cyfansoddwr neu athro.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Bangor
Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth