Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diogelu a Prevent

Dysgwch fwy am Ddiogelu ac Atal

Graffeg o ddysgwr yn cael ei fwlio

Diogelu

Mae Diogelu yn Gyfrifoldeb Pawb.

Wrth i chi ddechrau eich taith addysgol gyda ni, mae'n bwysig deall mai eich diogelwch a'ch lles chi yw ein prif flaenoriaethau. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel a chefnogol lle gallwch ffynnu yn academaidd ac yn bersonol.

Beth yw Diogelu a pham ei fod yn bwysig?

Mae diogelu yn ymwneud â'ch diogelu rhag niwed a sicrhau eich bod yn teimlo'n ddiogel tra byddwch yn y coleg. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn rhydd rhag camdriniaeth, bwlio, esgeulustod, ac unrhyw fath arall o niwed, p'un a ydych ar y campws neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau coleg ar-lein.

Rydym am i chi gael y profiad gorau posibl. Trwy ddeall a chadw at arferion diogelu, gallwn oll gyfrannu at gymuned ddiogel a chefnogol. Mae diogelu yn ein helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a’i warchod.

Graffeg o fwlio ar-lein/radicaleiddio

Prevent

Beth yw Prevent a pham ei fod yn bwysig?

Mae Prevent yn rhan o strategaeth llywodraeth y DU i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. Mae'n ymwneud â chefnogi ac amddiffyn y rhai a allai fod yn agored i radicaleiddio, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth cyn y gall unrhyw niwed ddigwydd.

Nid yw PREVENT yn ymwneud â chyfyngu ar eich rhyddid i lefaru neu lleisio eich barn. Mae’n ymwneud â sicrhau bod ein campws yn fan diogel lle gellir cynnal trafodaethau agored ac iach heb ofni eithafiaeth. Rydym am eich grymuso gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i adnabod ac ymateb i risgiau posib yn eich amgylchedd.

Gwerthoedd Prydeinig

Mae Gwerthoedd Prydeinig Sylfaenol yn greiddiol i’r hyn yw bod yn ddinesydd mewn Prydain Fawr fodern ac amrywiol gan werthfawrogi ein cymuned a dathlu amrywiaeth y DU. Y gwerthoedd hyn yw:

  • Democratiaeth
  • Rheolaeth y Gyfraith
  • Parch a Goddefgarwch
  • Rhyddid yr Unigolyn

Tasg i Ddysgwyr

Er mwyn eich helpu i ymgyfarwyddo â’n polisïau a gweithdrefnau Diogelu ac PREVENT, rydym wedi paratoi cyflwyniad drwy gyfres o sleidiau gwybodaeth ryngweithiol. Bydd hyn yn eich arwain trwy agweddau allweddol Diogelu ac PREVENT, gan gynnwys sut i adnabod risgiau posibl, sut i amddiffyn eich hun ac eraill, a beth i'w wneud os oes gennych bryderon.

Cymerwch amser i gwblhau'r sleidiau rhyngweithiol sydd wedi'u cysylltu isod. Wedi hynny, gofynnir i chi lenwi holiadur byr i wirio eich dealltwriaeth.

Mae’r modiwl diogelu hwn yn cynnwys deunydd a allai beri gofid. Os bydd unrhyw ran o'r cynnwys yn peri gofid i chi, rhowch wybod i'ch tiwtor neu cysylltwch â'r tîm lles am gymorth.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date