Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Mae gan ein hadrannau celf enw rhagorol ac maent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau eang ac arbenigol. Dysgir y cyrsiau galwedigaethol mewn stiwdios, gyda chymorth cyfrifiaduron Apple Mac pwrpasol a meddalwedd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant.
Mae cyfraniad y sector celf a dylunio yng ngogledd Cymru i greadigrwydd ac arloesedd yn hanfodol bwysig, ac mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol a gwerth chweil mewn meysydd arbenigol a chyffrous.
Yn ogystal â chyfleoedd i weithio mewn diwydiannu creadigol lleol, mae posibilrwydd o weithio i sefydliadau blaenllaw ym maes diwylliant a'r cyfryngau, neu hyd yn oed i ddechrau eich stiwdio ddylunio neu'ch busnes creadigol eich hun.
Rydym yn cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau celf a dylunio yng ngogledd Cymru. Mae'r llwybrau sydd ar gael yn cynnwys dylunio graffig, celf gain, ffotograffiaeth, tecstilau, dylunio 3D, a darlunio. Gallwch hefyd fireinio eich arbenigedd creadigol ymhellach trwy fynd ymlaen i astudio ar lefel gradd.
Dan arweiniad tiwtoriaid sydd â phrofiad o'r diwydiannau creadigol, cewch eich hyfforddi i ddefnyddio'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf mewn stiwdios a gweithdai o'r radd flaenaf.
Gallai gyrfaoedd yn y sector Celf a Dylunio gynnwys bod yn:
- Ddylunydd Graffig
- Darlunydd
- Artist Cain
- Dylunydd Tecstilau
- Ffotograffydd
- Dylunydd 3D
- Animeiddiwr
- Cyfarwyddwyr Celf
- Curadur
- Dylunydd Cynnyrch
P’un a ydych chi’n dymuno creu profiadau gweledol, llunio gweithiau celf trawiadol, neu dorri eich cwys eich hun ym myd dylunio, mae gyrfa yn y diwydiant celf a dylunio yn cynnig cyfleoedd gwerth chweil i wneud argraff.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 2 hyd at gyrsiau
lefel Gradd.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Cyrsiau lefel 2
Cyrsiau lefel 3
Cyrsiau lefelau 4 - 6
Gyrfa mewn Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.