Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Ar bob cwrs, cyfunir gwaith theori a sesiynau ymarferol ag ymweliadau a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, er mwyn meithrin eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Gyda'i dirwedd amrywiol o fynyddoedd, arfordiroedd a choedwigoedd, mae gogledd Cymru'n lle delfrydol i'r sawl sy'n mwynhau gweithgareddau awyr agored. Mae'r ardal yn ganolfan i weithgareddau a chwaraeon cyffrous, ac yn cynnig cyfleodd di-ri am antur a thwf personol.

Bydd ein tiwtoriaid arbenigol yn rhoi i chi'r sgiliau angenrheidiol i gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.

Mae ein cyrsiau'n cynnwys meysydd fel gwyddor chwaraeon a hyfforddiant, lle cewch feithrin y sgiliau a'r wybodaeth i ddod yn hyfforddwr chwaraeon cymwysedig. Neu gallech feithrin eich sgiliau arwain a'ch ymwybyddiaeth o'r amgylchedd ar un o'n rhaglenni addysg awyr agored.

Mae ein cyfleusterau hyfforddi modern yn cynnwys dwy ganolfan chwaraeon ar ein campysau yn Llangefni a Llandrillo-yn-Rhos lle defnyddir yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf. Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos hefyd ceir cae chwarae awyr agored.

Gallai llwybrau gyrfa posibl gynnwys bod yn:

  • Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored
  • Hyfforddwr Chwaraeon
  • Hyfforddwr Ffitrwydd
  • Trefnydd ym maes Twristiaeth Antur
  • Technegydd Offer Gweithgareddau Awyr Agored
  • Gwyddonydd ym maes Chwaraeon
  • Addysgwr Amgylcheddol

P'un ai a ydych yn anturiwr o fri neu ddim ond yn dechrau ymddiddori yn y maes, bydd eich cyrsiau'n eich helpu i droi eich diddordeb yn yrfa werth chweil.

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Cyfleusterau Chwaraeon Llangefni

Mae'r ganolfan chwaraeon ar ein campws yn Llangefni yn gartref i'r dechnoleg a'r offer diweddaraf ar gyfer monitro perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon, gan gynnwys beiciau wat, peiriannau Seca i ddarparu dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn gradd feddygol, a melin draed arbenigol yn cynnwys system dadansoddi bagiau nwy Douglas i asesu Vo2max.

Dewch i wybod mwy...

Canolfan Chwaraeon campws Llangefni
Beicio ar feic ymarfer yn y gym

Cyfleusterau Chwaraeon Llandrillo-yn-Rhos

Ar ein campws yn Llandrillo-yn-Rhos mae gennym ganolfan chwaraeon, campfa a chae pêl-droed 3G sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.

Dewch i wybod mwy...

Gyrfa mewn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyrwyr yn defnyddio offer chwaraeon