Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Bydd ein cymwysterau’n rhoi sylfaen gadarn i chi mewn meysydd fel amlgyfryngau, rhwydweithio, rhaglennu a datblygu gemau cyfrifiadurol.

Mae cyfrifiadura a thechnolegau digidol yn ganolog i arloesedd yn y Deyrnas Unedig, gan eu bod yn ysgogi datblygiadau diwydiannol ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol mewn meysydd blaengar ac uchel eu twf.

O gwmnïau technoleg lleol i fusnesau byd-eang, neu hyd yn oed gyfleoedd i lansio eich busnes technoleg eich hun, mae'r sector yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'r rhai sydd â diddordeb mewn technoleg a chreadigedd digidol.

Rydym yn cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau ym maes cyfrifiadura, technolegau digidol a datblygu gemau yng ngogledd Cymru. Ymhlith y llwybrau sydd ar gael mae datblygu meddalwedd, seiberddiogelwch, rhwydweithio, datblygu gwefannau, cyfryngau digidol, a dylunio gemau. Gallwch hefyd ddatblygu eich arbenigedd technegol a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach trwy fynd ymlaen i astudio ar lefel gradd yma yn y coleg.

Mae ein cyrsiau cyfrifiadura a thechnolegau digidol yn cael eu harwain gan diwtoriaid sydd â phrofiad go iawn o'r diwydiant a chewch eich hyfforddi i ddefnyddio'r caledwedd a'r meddalwedd diweddaraf mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf.

⁠Fel myfyriwr, cewch ddefnyddio consolau, VR/AR (Hololens, Oculus Rift), argraffwyr 3D, llechi graffeg Wacom, labordai caledwedd a meddalwedd a chyfrifiaduron sy’n gallu rhedeg meddalwedd technegol a ddefnyddir yn y diwydiant, e.e. Maya, Unreal, Unity, Game Maker, Animate, Microsoft Visual Studio, Python, App Inventor, Lego Mindstorms a'r Adobe Master Suite.

Mae gan ein myfyrwyr rhwydwaith fynediad at amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar-lein ynghyd ag efelychwr rhwydwaith gan Cisco. Drwy raglen Imagine, mae gan ein myfyrwyr rhaglennu a rhwydweithio hefyd hawl i gael mynediad am ddim at gopïau o feddalwedd allweddol gan Microsoft.

Gallai gyrfaoedd yn y sector Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol gynnwys bod yn:

  • Ddatblygwr Meddalwedd
  • Arbenigwr Seiberddiogelwch
  • Dylunydd Gemau
  • Gweinyddwr Systemau TG
  • Datblygwr Gwefannau
  • Dadansoddwr Data
  • Arbenigwr Marchnata Digidol
  • Peiriannydd Cwmwl
  • Dylunydd UX/UI
  • Peiriannydd Dysgu Peiriannau/Peiriannydd Deallusrwydd Artiffisial

⁠P'un ai'ch uchelgais yw datblygu meddalwedd, creu gemau ymgolli, neu ffurfio dyfodol arloesedd digidol, mae gyrfa ym maes cyfrifiadura, technolegau digidol a datblygu gemau'n cynnig posibiliadau di-ben-draw i wneud argraff.

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyriwr yn chwarae gemau cyfrifiadurol
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date