Lletygarwch ac Arlwyo
Yn ddiweddar, cafodd ein hadrannau Lletygarwch radd ‘Rhagoriaeth’ gan Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Yng ngogledd Cymru ceir diwydiant lletygarwch ac arlwyo bywiog ac amrywiol sy'n cynnig cyfleoedd i weithio mewn bwytai o'r radd flaenaf, caffis bach cysurus, a gwestai moethus. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ragori yn y diwydiant cyffrous hwn.
Mae ein cyfleusterau hyfforddi modern yn cynnwys bwytai sy'n agored i'r cyhoedd ar gampysau Bangor, Dolgellau a Llandrillo-yn-Rhos. Yma cewch eich hyfforddi gan ddefnyddio'r cyfleusterau diweddaraf a chyfle i roi'r sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu dysgu ar waith mewn lleoliad gwaith go iawn.
Mae ein cyrsiau'n cynnwys amrywiaeth o feysydd gwahanol yn y diwydiant lletygarwch.
Gallwch feithrin eich sgiliau yn y celfyddydau creadigol, gan feistroli'r grefft o goginio popeth o brydau bwyd clasurol i seigiau dychmygus. Neu fe allech chi ddysgu sut mae cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i gwsmeriaid, o gymryd archebion i reoli seleri gwin ar ein cyrsiau gweini bwyd a diod.
Gallwch barhau i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth i arwain busnes lletygarwch yn llwyddiannus ar ein cyrsiau Dilyniant i Reoli ym maes Lletygarwch.
Gallai llwybrau gyrfa posibl gynnwys bod yn:
- Gogydd
- Rheolwr Bwyty
- Rheolwr Gwesty
- Barista
- Gweinydd Gwin (Sommelier)
- Goruchwyliwr Bwyd a Diod
- Trefnydd Digwyddiadau
Mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant a byddant yn eich helpu i ganfod beth sy'n tanio eich diddordeb ac i ddechrau ar yrfa werth chweil ym maes lletygarwch ac arlwyo.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 1 hyd at gyrsiau
lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Cyrsiau lefel 1
Cyrsiau lefel 2
Cyrsiau lefel 3
Cyrsiau lefelau 4 - 6
Gyrfa mewn Lletygarwch ac Arlwyo
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.