Mae injan jet wedi’i danfon i gampws Coleg Menai yn Llangefni, diolch i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, RAF y Fali, Babcock International a Rolls Royce.
Newyddion Coleg Menai
Mewn seremonïau'r wythnos diwethaf, dathlwyd llwyddiannau dros 80 o fyfyrwyr addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai.
Mae'r Grym yn gryf gyda myfyriwr o Goleg Menai a greodd ei sabr golau o faintioli llawn fel rhan o'i gwrs peirianneg electronig.
Y penwythnos hwn, bydd myfyrwyr o Goleg Menai'n cymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn.
Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.
Cafodd dau o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyfle i gyfrannu at y gwaith o drawsnewid adeilad Coleg Menai yn Nhŷ Menai tra oedden nhw ar leoliad profiad gwaith gyda Read Construction.
Cyn bo hir, bydd myfyrwyr Lefel 3 Cyfryngau Creadigol Coleg Menai yn arddangos eu sgiliau gwneud ffilmiau yn noson Premiere Ffilm gyntaf erioed y coleg.
Cyn bo hir bydd Coleg Menai yn cynnal Ffair Wirfoddoli ar ei gampws ym Mangor, mewn ymgais i ysbrydoli staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd i ystyried rhoi rhywfaint o'u hamser rhydd i helpu eraill.
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi ennill gwobr arian ym maes ffiseg ar ôl cyflwyno ei hymchwil yn y Senedd yn Llundain fel rhan o gystadleuaeth STEM for Britain.
Mae dau o fyfyrwyr Coleg Menai wedi cael eu dewis i gynrychioli Chwaraeon Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau (AoC) yn Nottingham dros y penwythnos.