Mae Cassie Ogilvy, sy’n astudio Chwaraeon yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi’i dewis i ymuno â charfan pêl-rwyd ‘North Wales Fury’.
Archif
Ebrill


Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau peirianneg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli ar ymweliad i weithdy'r rheilffordd, Boston Lodge, prif weithdy Cwmni Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.

Yn ddiweddar, aeth Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i Grŵp Llandrillo Menai i ddathlu cyhoeddi partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru, gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth.

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi ennill gwobr arian ym maes ffiseg ar ôl cyflwyno ei hymchwil yn y Senedd yn Llundain fel rhan o gystadleuaeth STEM for Britain.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn paratoi at groesawu cannoedd o bobl leol i'w Diwrnodau Hwyl Cymunedol ym mis Mai a Mehefin.

Bydd myfyrwyr Celf Coleg Menai yn arddangos eu gwaith celf yn y Galeri, Caernarfon, fel rhan o brosiectau terfynol diwedd y flwyddyn academaidd.

Mae dau o fyfyrwyr Coleg Menai wedi cael eu dewis i gynrychioli Chwaraeon Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau (AoC) yn Nottingham dros y penwythnos.

Bydd Aron Jones, cyn-fyfyriwr Weldio a Ffabrigo, yn cystadlu yng nghystadleuaeth World Skills yn Leon, Ffrainc yn fuan.

Mae myfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, sydd wedi gwirioni ar gerddoriaeth, un cam yn nes at wireddu ei freuddwyd o fod yn DJ o'r radd uchaf.

Yn ddiweddar, cynhyrchodd myfyrwyr peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor y car cyflymaf mewn cystadleuaeth ranbarthol, Gogledd Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM.

Yn ddiweddar, fel rhan o ddiwrnod ymweld â Chanolfan Conwy yn Llanfairpwllgwyngyll, rhoddodd myfyrwyr Peirianneg Forol eu cychod eu hunain ar brawf ar y Fenai.

Mae Grŵp Llandrillo Menai a chwmni Sbarduno yn cydweithio ar gynllun i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Mae partneriaeth newydd rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i ganfod ffyrdd o daclo unigrwydd ym maes gofal.

Croesawodd Coleg Glynllifon, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol, dros 60 o bobl ifanc yn ddiweddar, i ddysgu mwy am y sector Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad.